tref fechan yng Nghaerffili From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Bargod[1][2][3] (hefyd Bargoed). Saif ar lan afon Rhymni i'r gogledd o dref Caerffili.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 11,900, 11,864 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 714.49 ha |
Cyfesurynnau | 51.685102°N 3.229659°W |
Cod SYG | W04000728 |
Cod OS | ST145995 |
Cod post | CF81 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hefin David (Llafur) |
AS/au y DU | Nick Smith (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae marchnad wythnosol yn y dre. Mae Caerdydd 23.3 km i ffwrdd o Bargoed ac mae Llundain yn 217.7 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 20.2 km i ffwrdd.
Yn wreiddiol roedd yn dref farchnad wledig, ond tyfodd i fod yn dref sylweddol yn dilyn agor pwll glo yn 1903. Caeodd y pwll glo yn ystod y 1980au, ac mae'r safle nawr yn gartref i barc gwledig.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Nick Smith (Llafur).[5]
Fe'i ceir yn gyntaf, wedi'i ysgrifennu, yn 1799, felly bathiad cymharol ddiweddar ydyw. Mae'n tarddu o enw'r nant "Nant Bargod Rhymni" sy'n llifo i lawr Mynydd y Fochriw i afon Rhymni yn Aberbargoed (Aber Bargoed oedd ffurf 1578). Mae enw'r nant, fodd bynnag, yn llawer hŷn; fe'i gwelir gyntaf yn 1170 "Bargau Remni". Roedd y nant yn ffin naturiol rhwng tiroedd brithdir a Senghennydd Uwch Caeach. Gyda thwf diwydiant 19eg ganrif, galwyd y tir ar yr ochor ddwyreiniol yn Aberbargoed (Aberbargod, 1729), Pontaber Bargoed yn 1794). Galwyd yr ochor orllewinol yn Bargoed. Bargod, felly, oedd y ffurf gynharaf, a hynny'n golygu "ffin". Newidiwyd yr enw, mae'n debyg, oherwydd dylanwad llefydd cyfagos megis Penycoed ac Argoed.[6]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Bargod (pob oed) (11,900) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bargod) (1,143) | 10% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bargod) (10874) | 91.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Bargod) (2,246) | 44.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.