pentref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Ynys-ddu,[1] weithiau Ynysddu.[2] Saif yn Nyffryn Sirhywi, gerllaw Cwmfelinfach, 4.3 milltir i'r gogledd o Rhisga a 4 milltir i'r de o dred Coed Duon.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,948, 3,966 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,417.65 ha |
Cyfesurynnau | 51.6267°N 3.1861°W |
Cod SYG | W04000750 |
Cod OS | ST180925 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhianon Passmore (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Evans (Llafur) |
Sefydlwyd yn bentref yn gynnar yn y 19g gan berchenog glofa lleol, John Hodder Moggridge, ar gyfer ei weithwyr. Roedd nifer yr etholwyr yn 2008 yn 2,905. Mae'r pentref yn fwyaf enwog fel man geni'r bardd William Thomas ("Islwyn") (1832 - 1878).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Ynys-ddu (pob oed) (3,948) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ynys-ddu) (387) | 10.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ynys-ddu) (3416) | 86.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Ynys-ddu) (550) | 33.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.