rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Ehedydd coed (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: ehedyddion coed) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Lullula arborea; yr enw Saesneg arno yw Wood lark. Mae'n perthyn i deulu'r ehedydd (Lladin: Alaudidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Ehedydd coed Lullula arborea | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Alaudidae |
Genws: | Lullula[*] |
Rhywogaeth: | Lullula arborea |
Enw deuenwol | |
Lullula arborea | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn L. arborea, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Nid yw Ehedydd coed yn aderyn mudol yn y gorllewin fel rheol, ond yn y dwyrain mae yn mudo ymhellach i'r de yn y gaeaf. Aderyn brown, tua 13.5 – 15 cm o hyd yw, yn bur debyg i'r Ehedydd o ran ei olwg. Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd ei gân, ac yn aml mae'n codi yn uchel i'r awyr dan ganu, hyd at 100 medr. Nytha mewn coedwigoedd agored, neu rostir gyda choed gwasgaredig.
Ar un adeg roedd Ehedydd coed yn aderyn cyffredin trwy Gymru, ond bu gostyngiad mawr yn ei niferoedd yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, hyd nes iddo bron ddiflannu fel aderyn sy'n nythu. Yn y blynyddoedd diwethaf, ymddengys ei fod ddychwelyd yn raddol i rai ardaloedd.
Mae'r ehedydd coed yn perthyn i deulu'r ehedydd (Lladin: Alaudidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Alaudala somalica | Alaudala somalica | |
Ehedydd Dunn | Eremalauda dunni | |
Ehedydd Dupont | Chersophilus duponti | |
Ehedydd Gray | Ammomanopsis grayi | |
Ehedydd coed | Lullula arborea | |
Ehedydd gwridog | Calendulauda poecilosterna | |
Ehedydd gylfindew | Ramphocoris clotbey | |
Ehedydd hirewin | Chersomanes albofasciata | |
Ehedydd llwyd Asia | Alaudala cheleensis | |
Ehedydd sabota | Calendulauda sabota |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.