Drew Hendry
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Alban yw Drew Hendry (Andrew Egan Henderson "Drew" Hendry; (ganwyd 21 Mai 1964)[1]) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Inverness, Nairn, Badenoch a Strathspey; mae'r etholaeth yn Ucheldir yr Alban. Mae Drew Hendry yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Ef yw Llefarydd yr SNP dros Drafniaidaeth.
Drew Hendry | |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
Rhagflaenydd | Danny Alexander Democratiaid Rhyddfrydol |
---|---|
Geni | (1964-05-21) 21 Mai 1964 (58 oed) Caeredin, Yr Alban |
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Inverness, Nairn, Badenoch a Strathspey |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Enw llawn: Andrew Egan Henderson "Drew" Hendry |
Deffrowyd ef yn wleidyddol gan Refferendwm Annibyniaeth yr Alban yn 1979.[2] Bu'n gweithio yng Nghaeredin hyd at 1999 pan symudodd ef a'i wraig i bentref Tore yn nwyrain Ucheldir yr Alban. Sefydlodd gwmni bychan yn y dref gyfagos yn 1999: teclan ltd, a leolwyd yn Inverness, a oedd yn cynnig gwasanaeth digidol a chyfrifiadurol i werthwyr dros y we.[2]
Bu'n gynghorydd sir ar Gyngor Ucheldir yr Alban ers 2007 ac yn arweinydd y cyngor hwnnw rhwng 2012 a 2015. Bu'n gyfrifol am ddod a lleiafswm cyflog (neu living wage) i'r sir - cyn i hynny ddod yn boblogaidd yn dilyn ymgyrch yr SNP yn Etholiad 2015.