![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/39/Dale%252C_Pembrokeshire.jpg/640px-Dale%252C_Pembrokeshire.jpg&w=640&q=50)
Dale
pentref yn Sir Benfro / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Dale.[1] Saif ar arfordir i'r gogledd-orllewin o Aberdaugleddau. Saif yn y rhan Saesneg o Sir Benfro, ac nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Daw'r enw "Dale" o'r Hen Norseg Dalr ("dyffryn"). Gerllaw mae Llwybr Arfordir Sir Benfro.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/42/Dale%2C_Pembrokeshire_-_geograph.org.uk_-_87970.jpg/320px-Dale%2C_Pembrokeshire_-_geograph.org.uk_-_87970.jpg)
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ![]() |
Sir | Sir Benfro ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Herbrandston ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7069°N 5.1711°W ![]() |
Cod SYG | W04000423 ![]() |
Cod OS | SM809057 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
![]() | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]
Ceir caer o'r cyfnod Fictoraidd yn y pentref, sy'n awr yn ganolfan astudiaethau maes bioleg y môr, daeareg a phynciau tebyg. Effeithiwyd ar yr ardal pan gollwyd 72,000 tunnell o olew i'r môr wedi i'r llong Sea Empress fynd ar y creigiau gerllaw ar 15 Chwefror 1996.
Gerllaw Dale, ym Mae Pont y Pistyll, y glaniodd Harri Tudur yn 1485 i ddechrau'r ymgyrch a arweiniodd at fuddugoliaeth Brwydr Maes Bosworth a'i goroni fel Harri VII.