Cwpan y Byd Pêl-droed 2010
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd Cwpan y Byd FIFA 2010 yn Ne Affrica rhwng 11 Mehefin ac 11 Gorffennaf 2010. Dyma oedd y 19eg Cwpan y Byd, ar gyfer timau pêl-droed cenedlaethol dynion sydd yn cael ei drefnu gan FIFA. Dyma oedd y tro cyntaf i'r rowndiau terfynol gael eu cynnal yn Affrica.
Cwpan Pêl-droed y Byd De Affrica, 2010 | |
---|---|
Logo Cwmpan y Byd FIFA 2010 | |
Manylion | |
Cynhaliwyd | De Affrica |
Dyddiadau | 11 Mehefin – 11 Gorffennaf (31 diwrnod) |
Timau | 32 (o 6 ffederasiwns) |
Lleoliad(au) | 10 (mewn 9 dinas) |
Safleoedd Terfynol | |
Pencampwyr | Sbaen |
Ail | yr Iseldiroedd |
Trydydd | yr Almaen |
Pedwerydd | Wrwgwái |
Ystadegau | |
Gemau chwaraewyd | 64 |
Goliau a sgoriwyd | 145 (2.27 y gêm) |
Torf | 3,178,856 (49,670 y gêm) |
Prif sgoriwr(wyr) | Diego Forlán Thomas Müller Wesley Sneijder David Villa (5 gôl)[1] |
Chwaraewr gorau | Diego Forlán[2] |
Chwaraewr ifanc gorau | Thomas Müller[3] |
Golwr gorau | Iker Casillas[4] |
← 2006 2014 → |
Dechreuodd y broses o gyrraedd De Affrica ym mis Awst 2007 wrth i Ynysoedd Solomon drechu Samoa America 12-1 a Tahiti golli 0-1 yn erbyn Caledonia Newydd yn rowndiau rhagbrofol Conffederasiwn Pêl-droed Oceania[5].
Roedd pob gwlad sydd wedi codi Cwpan y Byd yn y gorffennol wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd 2014 gyda'r Almaen (enillodd dair tlws fel Gorllewin Yr Almaen), Yr Ariannin, Brasil, Yr Eidal, Ffrainc, Lloegr ac Wrwgwái i gyd yn bresennol.
Roedd Slofacia yn ymddangos yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf fel gwlad annibynnol er eu bod wedi ymddangos fel rhan o dîm Tsiecoslofacia yn 1990.
Cynhaliwyd y rownd derfynol yn Soccer City, Johannesburg ar 11 Gorffennaf gyda Sbaen yn llwyddo i godi'r tlws am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl trechu'r Iseldiroedd 1-0 wedi amser ychwanegol.