Tîm pêl-droed cenedlaethol Sbaen
tîm pêl-droed cymdeithas genedlaethol dynion yn cynrychioli Sbaen / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Sbaen (Sbaeneg: Selección de fútbol de España) yn cynrychioli Sbaen yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen (Sbaeneg: Real Federación Española de Fútbol) (RFEF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r RFEF yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA). Ymysg eu llysenwau mae, La Roja (y coch) a La Furia Roja (y coch ffyrnig).
Sbaen | |||
[[Delwedd: | Bathodyn y Crys/Arfbais y Gymdeithas]] | ||
Llysenw | La Selección, La Furía Roja | ||
---|---|---|---|
Cymdeithas | Real Federación Española de Fútbol | ||
Conffederasiwn | UEFA | ||
Prif Hyfforddwr | Luis Enrique Martínez | ||
Capten | Sergio Busquets | ||
Mwyaf o Gapiau | Sergio Ramos (180) | ||
Prif sgoriwr | David Villa (59) | ||
Stadiwm cartref | amrywiol | ||
Cod FIFA | ESP | ||
Safle FIFA | 1 | ||
| |||
Gêm ryngwladol gyntaf | |||
Sbaen 1–0 Denmarc (Brwsel, Gwlad Belg; 28 Awst 1920) | |||
Buddugoliaeth fwyaf | |||
Sbaen 13-0 Bwlgaria (Madrid, Sbaen; 21 Mai 1933) | |||
Colled fwyaf | |||
1-7 Yr Eidal (Amsterdam, Yr Iseldiroedd; 4 Mehefin 1928) | |||
Cwpan y Byd | |||
Ymddangosiadau | 14 (Cyntaf yn 1934) | ||
Canlyniad Gorau | Enillwyr, 2010 | ||
Pencampwriaeth Ewrop | |||
Ymddangosiadau | 9 (Cyntaf yn 1964) | ||
Canlyniad Gorau | Enillwyr, 1964, 2008, 2012 | ||
|
Mae Sbaen wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd pedairarddeg o weithiau gan gynnal y gysatdleuaeth ym 1982 ac ennill y gystadleuaeth yn 2010. Mae Sbaen hefyd wedi bod yn bencampwyr Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop deirgwaith yn 1964, 2008 a 2012.
Llwyddodd Sbaen i gipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd Barcelona 1992.