actores a chyfansoddwr a aned yn 1964 From Wikipedia, the free encyclopedia
Cantores Americanaidd o dras Gymreig a Gwyddelig yw Courtney Love (ganwyd 9 Gorffennaf 1964) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gitarydd, cyfansoddwr caneuon, actores ac awdur.
Courtney Love | |
---|---|
Ffugenw | Courtney Michelle Love, Courtney Love Cobain, Coco Rodriguez, Courtney Michelle Cobain, Love Michelle Harrison, Courtney Michelle Menely |
Llais | Courtney Love BBC Radio 4 - Woman's Hour 4 April 2014.ogg, Courtney Love BBC Radio 4 - Woman's Hour 4 April 2014 (with reference to her own Wikipedia).ogg |
Ganwyd | Courtney Michelle Harrison 9 Gorffennaf 1964 San Francisco |
Man preswyl | Los Angeles |
Label recordio | Sympathy for the Record Industry |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gitarydd, canwr, actor, cyfansoddwr, actor ffilm, artist recordio, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd ffilm |
Arddull | cerddoriaeth roc, roc amgen, grunge, pync-roc, post-grunge |
Math o lais | contralto |
Tad | Hank Harrison |
Mam | Linda Carroll |
Priod | James Moreland, Kurt Cobain |
Plant | Frances Bean Cobain |
Perthnasau | Paula Fox, Paul Hervey Fox, Elsie Fox |
Gwefan | https://www.courtneylove.com |
llofnod | |
Ganed Courtney Michelle Harrison yn San Francisco ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Taleithiol Portland a Choleg y Drindod, Dulyn. Priododd Kurt Cobain ac mae Frances Bean Cobain yn blentyn iddi.[1][2][3][4][5]
Roedd yn ffigwr amlwg yn sîn pync a grunge y 1990au, ac mae ei gyrfa wedi rhychwantu pedwar degawd. Cododd Love i amlygrwydd fel prif leisydd y band roc amgen Hole, a ffurfiodd ym 1989. Tynnodd sylw'r cyhoedd i'w pherfformiadau byw penchwiban, heb ei ffrwyno a'i geiriau llawn gwrthdaro, ynghyd â'i bywyd personol hynod gyhoeddus yn dilyn ei phriodas â Kurt Cobain, blaenwr y band 'Nirvana'.
Fe'i ganed yn 'Ysbyty Coffa Saint Francis' yn San Francisco, California, yn blentyn cyntaf i'r seicotherapydd Linda Carroll (g. Risi) a Hank Harrison, cyhoeddwr a rheolwr ffordd y band Grateful Dead.[6][7][8] Tad bedydd Love yw basydd a sylfaenydd y Grateful Dead, Phil Lesh.[9][10] Datgelwyd yn ddiweddarach bod ei mam, a gafodd ei mabwysiadu adeg ei geni a'i magu gan deulu Eidalaidd-Catholig amlwg yn San Francisco, yn ferch fiolegol y nofelydd Paula Fox.[11][12][13] Roedd hen-nain mamol Love, sef Elsie Fox, yn sgriptiwr-sgrin.[14] Yn ôl Love, cafodd ei henwi ar ôl Courtney Farrell, prif gymeriad y nofel Chocolates for Breakfast gan Pamela Moore. Mae hi o dras Almaeneg, Ciwbaidd, Cymreig, Gwyddelig a Seisnig.[15][16]
|
|||||
Yn cael trafferth gwrando ar y ffeil? Gweler Cymorth - sain. |
Treuliodd Love ei phlentyndod yn ardal Haight-Ashbury yn San Francisco tan ysgariad ei rhieni yn 1969, a sbardunwyd gan honiadau ei mam fod ei thad wedi bwydo Courtney gydag LSD pan oedd yn fabi. Er iddo wadu'r honiad, dyfarnwyd mai ei mam yn unig ddylid ei magu.[17][18][19]
Cafodd Love blentyndod teithiol iawn, oherwydd swydd ei thad, ond fe’i magwyd yn bennaf yn Portland, Oregon, ac yn ei harddegau bu’n chwarae mewn cyfres o fandiau byrhoedlog. Treuliodd flwyddyn yn byw yn Nulyn a Lerpwl cyn dychwelyd i'r Unol Daleithiau lle cafodd ei chastio yn rhai o ffilmiau Alex Cox Sid and Nancy (1986) a Straight to Hell (1987).
“ | There were hairy, wangly-ass hippies running around [our house] naked [doing] Gestalt therapy. My mom was also adamant about a gender-free household: no dresses, no patent leather shoes, no canopy beds, nothing. (Dyfyniad gan Love am ei harddegau) | ” |
Yn bedair ar ddeg oed, fe’i harestiwyd am ddwyn siop crys-T o Woolworths, [30] ac fe’i hanfonwyd i Hillcrest Correctional Facility, yn Salem, Oregon.[20]
Mynychodd Love ysgol Montessori yn Eugene, lle cafodd drafferthion yn academaidd a chael trafferth gwneud ffrindiau. Cwblhaodd ei gradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Oregon. [21][22] Yn 1983, cymerodd swyddi byrhoedlog yn gweithio fel dawnsiwr erotig yn Japan ac yn ddiweddarach yn Taiwan, ond cafodd ei alltudio ar ôl i'r llywodraeth gau'r clwb.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.