![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/80/Death_Penalty_World_Map.svg/langcy-640px-Death_Penalty_World_Map.svg.png&w=640&q=50)
Y gosb eithaf
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y gosb eithaf yw’r term a ddefnyddir am y wladwriaeth yn dienyddio drwgweithredwr fel cosb am drosedd.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/80/Death_Penalty_World_Map.svg/320px-Death_Penalty_World_Map.svg.png)
Glas: Wedi ei dileu yn llwyr
Gwyrdd: Wedi ei dileu heblaw am amgylchiadau eithriadol, e.e. yn amser rhyfel
Oren: Ar gael mewn theori, ond heb gael ei defnyddio yn ddiweddar
Coch: Yn cael ei defnyddio
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/63/Beccaria_-_Dei_delitti_e_delle_pene_-_6043967_A.jpg/640px-Beccaria_-_Dei_delitti_e_delle_pene_-_6043967_A.jpg)
Yn hanesyddol, defnyddid y gosb eithaf i ryw raddau gan bron bob cymdeithas trwy’r byd. Erbyn hyn mae bron pob gwlad yn Ewrop wedi diddymu’r gosb eithaf, ac mae hyn hefyd yn wir am lawer o wledydd eraill. Defnyddir y gosb eithaf o hyd yn yr Unol Daleithiau, Tsieina, Japan, India, llawer o wledydd Affrica a’r rhan fwyaf o wledydd y Dwyrain Canol.
Yn y rhan fwyaf o wledydd sy’n parhau i ddefnyddio cosb marwolaeth, fe’i cedwir ar gyfer troseddau fel llofruddiaeth neu deyrnfradwriaeth, ond mae rhai gwledydd, megis Tsieina, yn ei defnyddio ar gyfer troseddau eraill, er enghraifft llygredd.
Yn 2006, dienyddiwyd drwgweithredwyr yn Bahrain, Bangladesh, Botswana, Tsieina, Yr Aifft, Gini Gyhydeddol, Indonesia, Iran, Irac, Japan, Iorddonen, Gogledd Corea, Coweit, Maleisia, Mongolia, Pacistan, Sawdi Arabia, Singapôr, Somalia, Sudan, Syria, Wganda, yr Unol Daleithiau, Fietnam a Yemen.[1]
Roedd 91% o’r rhain mewn chwech gwlad:
- Tsieina (o leiaf 1,010, efallai lawer mwy)
- Iran (177)
- Pacistan (82)
- Irac (o leiaf 65)
- Sudan (o leiaf 65)
- Unol Daleithiau (53)