![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a6/ColumbaOenas.jpg/640px-ColumbaOenas.jpg&w=640&q=50)
Colomen wyllt
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn o deulu'r colomennod, Columbidae, yw'r Golomen Wyllt (Columba oenas). Mae'n byw mewn coetir a ffermdir ar draws Ewrop ac yng ngogledd-orllewin Affrica, gorllewin Siberia a rhannau o dde-orllewin a chanolbarth Asia. Mae'n dodwy un neu ddau ŵy gwyn mewn twll mewn coeden, adeilad neu glogwyn.[1] Mae'n bwydo ar hadau, dail, blagur a blodau gan amlaf.[1]
Ffeithiau sydyn Statws cadwraeth, Dosbarthiad gwyddonol ...
Colomen Wyllt | |
---|---|
![]() | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Columbiformes |
Teulu: | Columbidae |
Genws: | Columba |
Rhywogaeth: | C. oenas |
Enw deuenwol | |
Columba oenas Linnaeus, 1758 | |
Cau
Mae'n 32–34 cm o hyd ac mae'n pwyso 250-350 g.[1] Mae ganddi blu llwydlas gyda darn gwyrdd gloyw ar y gwddf. Yn yr awyr, mae gan ei hadenydd ymylon du ac mae darn llwydlas golau yng nghanol yr adenydd. Mae'r Golomen Wyllt yn debyg i'r Ysguthan ond yn llai a does ganddi ddim darnau gwyn ar yr adenydd a gwddf.