![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f2/Cilycwm_village_-_geograph.org.uk_-_539879.jpg/640px-Cilycwm_village_-_geograph.org.uk_-_539879.jpg&w=640&q=50)
Cil-y-cwm
pentref yn Sir Gaerfyrddin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Cil-y-cwm[1] (hefyd: Cilycwm). Saif ar Afon Gwenlais, ychydig i'r gogledd o'r fan lle mae'n ymuno ag Afon Tywi ac i'r gogledd o dref Llanymddyfri. Mae'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Mihangel, yn dyddio o'r 15g, a cheir murluniau diddorol ynddi. Ceir ywen enfawr yn y fynwent.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 487 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 7,442.35 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.045°N 3.82°W ![]() |
Cod SYG | W04000497 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au | Ann Davies (Plaid Cymru) |
![]() | |
Cau
Mae'r gymuned yn cynnwys rhan o fynyddoedd Elenydd; y pwynt uchaf yw Mynydd Mallaen (448m). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 472.
Cynrychiolir Cil-y-cwm yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ann Davies (Plaid Cymru).[2][3]