![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e9/Classic_Elenydd_landscape_-_geograph.org.uk_-_3915594.jpg/640px-Classic_Elenydd_landscape_-_geograph.org.uk_-_3915594.jpg&w=640&q=50)
Elenydd
ucheldir yng Ngheredigion / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal o fryniau yng ngorllewin a chanolbarth Cymru yw Elenydd. Mae'n ymestyn o fryniau ardal Pumlumon yn y gogledd (i'r de o Fachynlleth ac i'r dwyrain o Aberystwyth) i lawr i fryniau gogledd Sir Gaerfyrddin a de-ddwyrain Ceredigion, gan gynnwys sawl bryn canolig ei uchder yn y ddwy sir honno ac yng ngorllewin Powys. Ni cheir cytundeb unfarn ar derfyn deheuol Elenydd. Tueddir i gyfeirio at yr ardal yn Saesneg fel y "Cambrian Mountains", ond enw anaddas a diystyr ydyw (gweler hefyd Cambria a Cambriaidd). Ceir cyfeiriadau at Elenydd (yn y ffurf Cymraeg Canol Elenid / Elenyd) mewn sawl llawysgrif gan ddechrau ar ddiwedd y 12g, gan gynnwys chwedl Math fab Mathonwy yn y Mabinogion a gwaith Gerallt Gymro.[1]
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() Tirwedd clasurol o fryniau Elenydd | |
Math | ucheldir ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion Powys Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.4°N 3.7°W ![]() |
![]() | |
Cau