![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/63/Pant-Teg_%25284%2529.jpg/640px-Pant-Teg_%25284%2529.jpg&w=640&q=50)
Capel Pant-teg (Ystalyfera)
capel yr Annibynwyr yn Ystalyfera / From Wikipedia, the free encyclopedia
Addoldy cyntaf ym mhentref a chymuned Ystalyfera, bwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, oedd Capel Pant-teg. Fe'i codwyd gan y gymuned eu hunain a hynny yn 1821. Prynnwyd y tir ar lês o 999 mlynedd am geiniog neu ddwy yn unig ac enwyd y capel gan y Parch. John Davies o Alltwen.[1]
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | capel ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ystalyfera ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.756735°N 3.796944°W ![]() |
Cod post | SA9 2BU ![]() |
![]() | |
Crefydd/Enwad | Annibynwyr ![]() |
Cau
Yr unig adeilad i addoli ynddo cyn hynny oedd yr eglwys yn Llan-giwg a thai preifat anghydffurfwyr, neu daith 5-milltir i Alltwen neu Gwmllynfell. Cafwyd peth angydfod a oedd angen capel ai peidio, gan fod hoelion wyth y gymdeihas yn credu bod taith 5-milltir ar ddwy droed yn gwbwl dderbyniol.