pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Ystalyfera.[1][2] Fe'i lleolir ger cyd-lif yr afonydd Twrch a Thawe, tua 18 milltir i'r gogledd o Abertawe. Datblygodd Ystalyfera yn ystod y 18g, gyda gwaith haern pwysig a sawl pwll glo wedi eu lleoli yno. Fodd bynnag, gyda dirywiad diwydiant gwaithgynhyrchu, bu sawl newid cymdeithasol a demograffaidd yn Ystalyfera, sydd bellach ymlith y 100 cymuned mwyaf amddifad yng Nghymru yn ôl Mynegrif Aml-amddifadedd Cymru. [angen ffynhonnell]
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,663, 4,817 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 977.23 ha |
Cyfesurynnau | 51.7652°N 3.7881°W |
Cod SYG | W04000629 |
Cod OS | SN767089 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Mae gan Ystalyfera nifer o gapeli a thafarndai adnabyddus, gan gynnwys y Wern Fawr, sydd wedi ennill gwobrau am y cwrw a fregir ar y safle. Mae dylanwad Buddy Holly yn gryf ar enwau'r cwrw hyn. Ar ochr ddeheuol y pentref saif ardal Y Graig Arw a Phant-teg, sy'n cysylltu Ystalyfera â Godre'r-graig.
Yn y gorffennol, roedd ardal Ystalyfera yn enwog am lysenwau lliwgar y trigolion.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Ystalyfera (pob oed) (4,663) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ystalyfera) (1,812) | 40.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ystalyfera) (3810) | 81.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Ystalyfera) (852) | 41.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Mae yna ddwy ysgol yn y pentref: Ysgol Gynradd y Wern, ac Ysgol Gyfun Ystalyfera.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.