pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Y Creunant (Saesneg: Crynant). Saif yng Nghwm Dulais tua 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd ac i'r de o bentref Blaendulais, ar y briffordd A4109.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,910, 1,934 |
Gefeilldref/i | Alençon |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,169.6 ha |
Cyfesurynnau | 51.728°N 3.747°W |
Cod SYG | W04000609 |
Cod OS | SN793047 |
Cod post | SA10 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au y DU | Christina Rees (Llafur) |
Mae Afon Dulais yn llifo heibio iddo, gyda Mynydd Marchywel i'r gorllewin, Hirfynydd i'r dwyrain a Mynydd y Drum i'r gogledd.
Roedd Treforgan ar un adeg yn bentref ar wahan, ond erbyn hyn mae'n rhan o'r Creunant. Ardal lofaol oedd hon; agorwyd y lofa gyntaf, Maes Mawr, yn 1874. Roedd glofa Cefn Coed yn nodedig fel y lofa glo carreg ddyfnaf yn y byd ar un adeg. Mae Amgueddfa Glofa Cefn Coed ar safle hen lofa Blaenant, oedd yn estyniad o lofa Cefn Coed.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[2]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Y Creunant (pob oed) (1,910) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Creunant) (465) | 25.1% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Creunant) (1631) | 85.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Y Creunant) (331) | 39.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.