pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Cwmllynfell. Saif ar y briffordd A4068 rhwng Brynaman ac Ystalyfera, heb fod ymhell o Afon Twrch. Mae'r ward etholiadol yn cynnwys Blaen-nant, Bryn-Melyn, Celliwarog, Cwmllynfell a Rhiw-fawr.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,172, 1,144 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 930.22 ha |
Cyfesurynnau | 51.7989°N 3.8185°W |
Cod SYG | W04000611 |
Cod OS | SN747127 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
Agorwyd Glofa Cwmllynfell rywbryd cyn 1825, pan gofnodir i 59 o weithwyr gael eu lladd mewn ffrwydrad yno. Yn 1947 roedd yn cyflogi 360 o lowyr. Caeodd yn 1959. Hyd nes i'r lofa gau, cynhelid cyfarfodydd lleol Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn Gymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Cwmllynfell (pob oed) (1,172) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cwmllynfell) (669) | 58.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cwmllynfell) (912) | 77.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Cwmllynfell) (198) | 39.3% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.