![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0b/Wales_location_map.svg/langcy-640px-Wales_location_map.svg.png&w=640&q=50)
Brwydr Craig-y-dorth
Un o frwydrau Owain Glyndŵr a ymladdwyd yn 1404 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o frwydrau Owain Glyn Dŵr oedd Brwydr Craig-y-dorth (neu Frwydr Craig y Dorth; "ar graic ydorth") a ymladdwyd yn 1404 pan gafodd y Cymry fuddugoliaeth dros y Saeson. Dyma'r ail frwydr a ymladdwyd rhwng y Cymry a'r Saeson y flwyddyn honno; y gyntaf oedd Brwydr Mynydd Camstwn ("ar vynydd kamstwm").[1] Gan fod byddin Lloegr ar ffo, cred rhai iddynt encilio i gopa Craig-y-dorth er mwyn mantesio ar uchter y copa, i amddiffyn eu hunain, ond iddynt gael eu trechu yno a'u herlid hyd at bont Trefynwy.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1404 ![]() |
Lleoliad | Cwmcarfan ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Rhanbarth | Sir Fynwy ![]() |
Saif Craig-y-dorth un filltir i'r gogledd-ddwyrain o eglwys Cwmcarfan, rhwng Penclawdd a Threfynwy.
Mae'r unig gyfeiriad i'r frwydr i'w gael yng Nghroniclau Owain Glyn Dŵr a sgwennwyd gan y bardd Gruffudd Hiraethog rhwng 1556 a 1564. Dywed i'r frwydr fod yn llwyddiant ysgubol i'r Cymru, pan laddwyd y mwyafrif o'r Saeson ac yr erlidiwyd nhw ar ddiwedd y frwydr, hyd at gatiau Pont Trefynwy.[2]