Brithdir, Caerffili
pentref ym mwrdeistref sirol Caerffili / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Tredegar Newydd, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Brithdir.[1][2] Fe'i lleolir yng Nghwm Rhymni i'r de o bentref Tredegar Newydd. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Gelli-gaer.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7098°N 3.2281°W |
Cod OS | SO155015 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hefin David (Llafur) |
AS/au | Wayne David (Llafur) |
Cau
- Am leoedd eraill o'r un enw gweler Brithdir.
Sefydlwyd Brithdir ar ddechrau'r 20g fel pentref glofaol ar gyfer gweithwyr ym mhwllau glo'r ardal.
Hyd at 1922, safai carreg gydag arysgrif Ladin arni yn enwi un Tegernacus, mab Martius. Mae'n bosibl y cafodd y garreg ei chodi yn y 7g. Safai mewn cae ger Capel Brithdir. Yn 1922 cafodd ei symud i Amgueddfa Cymru, Caerdydd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Wayne David (Llafur).[4]