hanesydd, llyfrbryf ac achyddwr From Wikipedia, the free encyclopedia
Hynafiaethydd a chasglwr llyfrau o Gymru oedd Bob Owen Croesor (Robert Owen: 8 Mai 1885 - 30 Ebrill 1962). Roedd yn frodor o Lanfrothen yn yr hen Sir Feirionnydd (Gwynedd heddiw), ond treuliodd ran helaeth o'i oes ym mhentref Croesor, wrth droed y Cnicht a'r Moelwynion.
Bob Owen, Croesor | |
---|---|
![]() Bob Owen yng nghanol ei lyfrau gyda'i wraig Nel yn 1958. Llun gan Geoff Charles. | |
Ganwyd | 8 Mai 1885 Llanfrothen |
Bu farw | 30 Ebrill 1962 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hanesydd, achrestrydd |
Brodor o Groesor oedd Bob Owen. Priododd âg Ellen (Nel) Jones yn 1923. Yn ôl pob sôn treuliodd ei fis mêl yn Aberystwyth yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd iddynt un mab a dwy ferch.[1]
Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn hanes lleol, hanes y Cymry yn America ac achyddiaeth Gymreig. Darlithiai i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr a daeth yn adnabyddus felly i'r werin. Roedd ei dŷ bychan yng Nghroesor yn enwog am fod mor llawn o lyfrau a phapurau o bob math fel prin y gellid symud yno, yn llythrennol.[1]
Enwyd Cymdeithas Bob Owen, cyhoeddwyr Y Casglwr, ar ei ôl pan gafodd ei sefydlu yn 1976.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.