athronydd o Gymru, logician, mathemategydd, hanesydd, llenor, beirniad cymdeithasol, actifydd gwleidyddol a enillydd gwobr Nobel From Wikipedia, the free encyclopedia
Athronydd, mathemategydd ac awdur o Loegr oedd Bertrand Arthur William Russell, 3ydd iarll Russell (18 Mai 1872 – 2 Chwefror 1970).[1][2]
Bertrand Russell | |
---|---|
Ganwyd | Bertrand Arthur William Russell 18 Mai 1872 Tryleg |
Bu farw | 2 Chwefror 1970 o y ffliw Plas Penrhyn, Penrhyndeudraeth |
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | mathemategydd, beirniad cymdeithasol, awdur ysgrifau, rhesymegwr, gwybodeg, athroniaeth iaith, gweithredydd gwleidyddol, metaffisegydd, athronydd dadansoddol, hunangofiannydd, academydd, awdur ffuglen wyddonol, athronydd gwyddonol, gwleidydd, ymgyrchydd heddwch, newyddiadurwr, athronydd, ysgrifennwr |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Proposed Roads to Freedom, My Philosophical Development, The Problems of Philosophy, Introduction to Mathematical Philosophy, Power: A New Social Analysis, In Praise of Idleness and Other Essays, The Principles of Mathematics, A History of Western Philosophy, The Autobiography of Bertrand Russell, Marriage and Morals, Human Knowledge: Its Scope and Limits, Justice in war time, Principia Mathematica, Human society in ethics and politics, Wisdow of the West |
Prif ddylanwad | Euclid, John Stuart Mill, Giuseppe Peano, Augustus De Morgan, George Boole, Gottlob Frege, Georg Cantor, George Santayana, Alexius Meinong, Baruch Spinoza, Ernst Mach, David Hume, Gottfried Wilhelm Leibniz, Ludwig Wittgenstein, Alfred North Whitehead, G. E. Moore, Percy Bysshe Shelley, George Frederick Stout |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur, Plaid Ryddfrydol |
Mudiad | athroniaeth ddadansoddol, rhyddfeddyliaeth, athroniaeth y Gorllewin |
Tad | John Russell |
Mam | Katharine Russell |
Priod | Alys Pearsall Smith, Dora Russell, Patricia Russell, Edith Finch Russell |
Plant | Conrad Russell, 5ed iarll Russell, John Russell, 4ydd iarll Russell, Yr Arglwyddes Katharine Tait, Yr Arglwyddes Harriet Russell |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Carl von Ossietzky, Gwobr Kalinga, Medal De Morgan, Medal Sylvester, Gwobr Jeriwsalem, doctor honoris causa from the University of Aix-Marseille |
llofnod | |
Fe ddaeth o deulu o uchelwyr o Loegr, ond ganwyd ef yng Nghymru ym mhentref Tryleg, Sir Fynwy, ac yng Nghymru hefyd y bu farw, ym Mhlas Penrhyn, Penrhyndeudraeth (yn yr hen Sir Feirionnydd).
Yn ogystal a'i waith academaidd, roedd yn ymgyrchu'n gyhoeddus ar sawl pwnc. Roedd yn sosialydd ac yn heddychwr, ac fe gyhoeddai safbwynt rhyddfrydol radicalaidd.
Yn y 1960au, ymsefydlodd ym Mhlas Penrhyn, Penrhyndeudraeth, yn rhannol oherwydd ei edmygedd o'r bardd Percy Bysshe Shelley a fu'n aros yn yr un ardal.[3] Roedd yn rhentu (nid yn berchen ar) y Plas yn ogystal â fflat yn Chelsea,[4] yn unol â'i daliadau asgell chwith. Ymgyrchu dros heddwch oedd ei brif weithgarwch yn ei gyfnod yno, gan gynnwys ei waith dros y Russell Peace Foundation a sefydlodd ym 1962.[5] Ralph Schoeneman oedd ei ysgrifennydd hyd fis Rhagfyr 1969; gaeth ei ymddiswyddo gan fod ei weithgarwch yn or-radicalaidd yn llygaid Russell. Ar 24 Hydref 1962, wrth i'r newyddiadurwr Glyn Russell Owen ymweld â Russell ym Mhlas Penrhyn, daeth newyddion fod argyfwng taflegrau Ciwba yn dechrau dadmer, gan beri i Russell a Schoeneman, a fu'n ymgyrchu'n galed am ddatrysiad heddychlon i'r sefyllfa, ddawnsio'n wyllt am rai munudau.[6] Bu farw Russell o'r ffliw ar 2 Chwefror 1970 ym mhlas Penrhyn. Cafodd ei amlosgi ym Mae Colwyn, heb na seremoni crefyddol na blodau,[7] yn unol â'i daliadau anffyddiol. Gwasgarwyd ei weddillion ar fynydd yng Nghymru.
|
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.