Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Anffyddiaeth yw, mewn ystyr eang, gwrthod y gred mewn bodolaeth Duw, duwiau, neu dduwiesau.[1] Mewn ystyr culach, safbwynt anffyddiaeth ydy nad oes dim duw neu dduwies.[2][3] Yn y bôn, anffyddiaeth yw'r absenoldeb o gredu mewn bodolaeth unrhyw dduwdod.[3][4] Cyferbynnir anffyddiaeth â theistiaeth,[5][6] sy'n honni bod un duwdod o leiaf sy'n bodoli.[6][7]
Enghraifft o'r canlynol | barn y byd, mudiad athronyddol, doxastic attitude |
---|---|
Math | Anghrefydd |
Y gwrthwyneb | theistiaeth |
Yn cynnwys | Marxist‒Leninist atheism, New Atheism |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw'r term gwreiddiol o'r gair Groeg "ἄθεος" (atheos), sy'n golygu "heb dduw". Rhoddwyd yr enw hwn ar bobl, ynghyd â chynodiad negyddol, oedd yn gwrthod y duwiau a addolwyd gan y gymdeithas/gymuned leol. Wrth i rydd-feddyliaeth ledaenu, ynghyd ag amheuaeth wyddonol a chynnydd dilynol mewn beirniadu crefydd, culhaodd defnydd o'r gair yn ei ystyr. Dechreuodd bobl i adnabod eu hunain yn "anffyddwyr" yn ystod y 18eg ganrif.[8]
Fel arfer, mae anffyddwyr yn amheus o honiadau goruwchnaturiol, gan ddyfynnu diffyg tystiolaeth empirig. Mae anffyddwyr wedi cynnig llawer o resymau am beidio â chredu mewn unrhyw dduw neu dduwies, sy'n cynnwys y problem o ddrwg, y ddadl o ddatguddiadau anghyson, a'r ddadl o anghrefydd. Mae ymresymiadau ar gyfer anffyddiaeth yn cynnwys y rhai athronyddol, cymdeithasol, a hanesyddol. Er bod ambell i anffyddiwr wedi mabwysiadu athroniaethau seciwlar,[9][10] nid oes un ideoleg neu set o ymddygiadau a gânt eu gorfodi ar anffyddwyr.[11]
Er bod Bwdhaeth yn ei ffurf glasurol yn grefydd heb dduw fel y cyfryw, mae e'n cael ei ystyried gan rai fel math o agnosticiaeth. Fe fydd yr anffyddiwr arferol yn prin gredu mewn unrhyw beth ysbrydol neu oruwchnaturiol. Er hynny, fe fydd rhai, yn enwedig ymhlith yr Hindŵiaid a'r Mwslimiaid, yn ystyried Bwdhaeth yn ffurf ar anffyddiaeth.
Anffyddiwr cryf yw rhywun sy wedi penderfynu bod bodolaeth Duw neu duwiau yn anrhesymol. Mae anffyddiwr cryf yn ddiysgog bod dim Duw na duwiau, a ni allent fodoli.
Dywedir bod un sydd erioed wedi meddwl llawer am fodolaeth Duw na duwiau yn anffyddiwr gwan. Byddai rhai yn ymresymu hefyd fod plentyn newyddanedig sydd heb gael awgrym o ddwyfoldeb yn anffyddiwr gwan. Er hynny, mae yna gred gyfochrog fod crefydd yn gynhenid i natur dyn.
Anffyddiwr difater yw rhywun sy’n malio dim os ydy Duw yn bodoli neu beidio. Fe fydd anffyddiwr difater yn gweithredu felly, fel petai dim Duw ac mae’n debyg eu bod wedi cael llawer o helynt yn y gorffennol am beidio cydymffurfio.
Safbwynt anffyddiwr yw, bod y cyfanfyd yn esboniadwy mewn termau naturyddol a gwyddonol, a bod Duw neu duwiau yn amhosibl.
Mae’r anffyddiwr yn gweld crefydd fel dim ond ofergoeliaeth, ac felly yn dueddol i fod yn oddefgar at bob crefydd heb ragfarn. Ar y llaw arall, fe fydd yr anffyddiwr yn casáu'r math o ffwndamentaliaeth sy'n dilyn ar ffugwyddoniaeth neu wrthddeallaeth, a hefyd yn brawychu dros y rhai sy’n rhyfela a lladd yn enw eu duwiau. Mae'r rhan fwyaf o anffyddwyr yn ddyneiddwyr hefyd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.