Awstralia
gwlad sofran yn hemisffer y De / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymanwlad Awstralia neu Awstralia yw'r wlad chweched fwyaf yn y byd yn ddaearyddol a'r unig un sydd yn gyfandir cyfan. Mae'n cynnwys ynys Tasmania, sy'n un o daleithiau'r wlad. Y gwledydd cyfagos yw Seland Newydd, sydd i'r de-ddwyrain o Awstralia, ac Indonesia, Papua Gini Newydd a Dwyrain Timor i'r gogledd. Mae arwynebedd y wlad oddeutu 7,692,024 km².[1] Canberra yw prifddinas y genedl, ond y ddinas fwyaf yw Sydney, ac ymhlith yr ardaloedd metropolitan mawr eraill mae Melbourne, Brisbane, Perth, Adelaide ac Newcastle.
Math | gwladwriaeth sofran, talaith ffederal, gwlad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Terra Australis |
Prifddinas | Canberra |
Poblogaeth | 26,473,055 |
Sefydlwyd | 3 Mawrth 1986 (annibyniaeth oddi wrth Prydain) (deddf Awstralaidd) |
Anthem | Advance Australia Fair |
Pennaeth llywodraeth | Anthony Albanese |
Cylchfa amser | UTC+10:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg Awstralia, Auslan |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | MIKTA, Australia and New Zealand, Awstralasia, y Gymanwlad |
Arwynebedd | 7,692,024 km² |
Gerllaw | Cefnfor India, De'r Cefnfor Tawel, Geneufor Mawr Awstralia, Culfor Bass, Môr Tasman, Môr Cwrel, Môr Arafura, Môr Timor |
Yn ffinio gyda | Indonesia, Seland Newydd, Papua Gini Newydd, Dwyrain Timor, Ynysoedd Solomon, Caledonia Newydd, Fanwatw |
Cyfesurynnau | 25°S 133°E |
Hyd | 3,860 cilometr |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Awstralia |
Corff deddfwriaethol | Senedd Awstralia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Awstralia |
Pennaeth y wladwriaeth | Siarl III |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Awstralia |
Pennaeth y Llywodraeth | Anthony Albanese |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $1,675,419 million |
CMC y pen | $54,348 |
Arian | Australian dollar |
Canran y diwaith | 6 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.74 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.951 |
Tarddiad yr enw "Awstralia" yw'r ymadrodd Lladin terra australis incognita ("Y tir deheuol na ŵyr neb amdano"). Mae'r ehangdir yn gorwedd rhwng Y Cefnfor Tawel i'r dwyrain a Chefnfor India i'r gorllewin. Trawsnewidiwyd y wlad gan fudo dynol; roedd Awstralia yn gartref i'r bobl brodorol, sef aboriginal, am filoedd o flynyddoedd ond ers diwedd y 18g, gwelwyd ton ar ôl ton o bobl yn ymfudo yma o orllewin Ewrop. Roedd y mwyafrif o'r mudwyr hyn yn dod o wledydd Prydain ac am flynyddoedd roedd y wlad dan reolaeth Brydeinig. Yn fwy diweddar, mae poblogaeth y wlad (dros 26 miliwn[2]) wedi cynyddu efo mudwyr o wledydd Asia megis Japan, De Corea, ac Indonesia yn ymdefydlu ar arfordir dwyreiniol y wlad[3]. Mae Awstralia wedi creu cysylltiadau masnachol cryf gyda gwledydd y Cefnfor Tawel. Yn y 21g, gwelwyd ailgyfeirio economi'r wlad gan fasnachu yn fwy gydag Asia a'r Unol Daleithiau yn hytrach na gyda'i phartneriaid traddodiadol, sef gwledydd y Gymanwlad ac Ewrop.
Bu Awstraliaid brodorol yn byw ar y cyfandir am oddeutu 65,000 o flynyddoedd, cyn i fforwyr o'r Iseldiroedd gyrraedd yn gynnar yn yr 17g, a'i enwi'n New Holland. Ym 1770, hawliwyd hanner dwyreiniol Awstralia gan 'Brydain Fawr' (hy Lloegr) a ddefnyddiodd y wlad i gartrefu pobl a ddedfrydwyd mewn llysoedd, drwy eu halltudio yma, yn enwedig i De Cymru Newydd gyda'r llong gyntaf yn cyrraedd ar 26 Ionawr 1788, dyddiad a ddaeth yn ddiwrnod cenedlaethol Awstralia. Tyfodd y boblogaeth yn gyson yn y degawdau dilynol, ac erbyn rhuthr aur o'r 1850au, roedd ymsefydlwyr Ewropeaidd wedi archwilio'r rhan fwyaf o'r cyfandir a sefydlwyd pum trefedigaeth y goron hunan-lywodraethol ychwanegol. Alltudiwyd rhyw 1,800 o bobl o Gymru erbyn 1852, rhyw 300 yn ferched. Yn eu plith roedd arweinwyr y Siartwyr, John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, a Lewsyn yr Heliwr y bu ganddo ran yn "nherfysgoedd" Merthyr.
Ar 1 Ionawr 1901, ffederalodd y chwe thref, gan ffurfio Cymanwlad Awstralia. Ers hynny mae Awstralia wedi cynnal system wleidyddol ddemocrataidd ryddfrydol sefydlog sy'n gweithredu fel brenhiniaeth gyfansoddiadol seneddol ffederal, sy'n cynnwys chwe gwladwriaeth a deg tiriogaeth.
Awstralia yw'r wlad hynaf, mwyaf gwastad, a'r sychaf, lle mae pobl yn byw ynddo, gyda'r priddoedd lleiaf ffrwythlon. O ran natur (ei bioamrywiaeth), mae'n wlad llawn amrywiaeth, ac mae yma amrywiaeth eang o dirweddau a hinsoddau hefyd, gydag anialwch yn y canol, coedwigoedd glaw trofannol yn y gogledd-ddwyrain, a mynyddoedd yn y de-ddwyrain. Cynhyrcha ei hincwm o amrywiol ffynonellau, gan gynnwys allforion o fwyngloddio, telathrebu, bancio, gweithgynhyrchu ac addysg.