![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/02/Amoxicillin.svg/langcy-640px-Amoxicillin.svg.png&w=640&q=50)
Amocsicilin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae amocsicilin, sydd hefyd yn cael ei sillafu’n amocsycilin, yn wrthfiotic sy’n ddefnyddiol at drin nifer o heintiau bacteriol.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₆H₁₉N₃O₅S. Mae amocsicilin yn gynhwysyn actif yn Amoxil a Moxatag. Fe'i defnyddir fel y driniaeth gyntaf ar gyfer Llid y glust ganol. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer trin ffaryngwst streptococol, niwmonia, Llid yr isgroen, a heintiau'r bibell droethol ymysg eraill. Fe'i cymerir drwy'r geg, neu'n llai cyffredin drwy bigiad.[2][3]
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol ![]() |
---|---|
Math | Penisilin, asid carbocsylig ![]() |
Màs | 365.104542 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | C₁₆h₁₉n₃o₅s ![]() |
Enw WHO | Amoxicillin ![]() |
Clefydau i'w trin | Dolur ar y dwodenwm, llid y glust ganol, clamydia, actinomycosis, clefyd lyme, listeriosis, haint bacteria sy'n adweithio'n negyddol i brofion gram, llid y sinysau, haint yn yr uwch-pibellau anadlu, heintiad y llwybr wrinol, clefyd achludol rhedwelïol, hadlif ![]() |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia a, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b ![]() |
Yn cynnwys | nitrogen, ocsigen, sylffwr, carbon, hydrogen ![]() |
![]() |
Mae sgil-effeithiau cyffredin yn cynnwys cyfog a brech. Gall hefyd gynyddu'r risg o heintiau burum ac, pan ddefnyddir ynghyd ag asid clafwlanig, dolur rhydd.[4] Ni ddylid ei ddefnyddio gan y rheiny sy'n alergaidd i benicillin. Tra'n ddefnyddiol i bobl a phroblemau'r arennau, dylid lleihau'r ddogn. Nid yw'n beryglus ei ddefnyddio tra'n feichiog neu'n bwydo ar y fron.
Darganfyddwyd Amoxicillin yn 1958 a daeth i gael ei ddefnyddio'n feddygol yn 1972.[5][6] Mae ar Restr Meddigyniaethau Hanfodol Cyfundrefn Iechyd y Byd, y moddion mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.[7] Mae'n un o'r gwrthfiotigau mwyaf cyffredin i'w argymell i blant.[8] Mae Amoxicillin ar gael fel cyffur generig. Mae ei gyfanwerth yn y gwledydd datblygol rhwng 0.02 and 0.05 USD y dabled.[9] Yn Yr Unol Daleithiau mae triniaeth am ddeg diwrnod yn costio tua 16 USD.