![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b5/Carboxylic-acid.svg/langcy-640px-Carboxylic-acid.svg.png&w=640&q=50)
Asid carbocsylig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Asid organig gyda'r grŵp carbocsyl a'r fformiwla gemegol: R-C(=O)OH, a fynegir fel arfer fel R-COOH neu R-CO2H [1] yw asid carbocsylig. Mae asidau carbocsylig yn asidau sy'n ffitio diffiniad Damcaniaeth Brønsted-Lowry; maent yn rhyddhau protonau. Mae halenau ac anionau asidau carbocsylig yn cael eu galw'n "carbocsyladau". Rhain yw'r asidau organig cryfaf o ganlyniad i sefydlogrwydd yr anion carbocsylad lle mae'r electronau (ac felly'r wefr negyddol) yn cael eu dadleoli rhwng y ddau atom ocsigen electronegyddol. Mae asidau carbocsylig mewn hydoddiant dyfrllyd felly'n sefydlu'r ecwilibriwm canlynol:
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth strwythurol cyfansoddion cemegol ![]() |
---|---|
Math | carbon oxoacid, organic acid, carbonyl compound ![]() |
Rhan o | ATPase-coupled carboxylic acid transmembrane transporter activity, carboxylic acid transmembrane transporter activity, carboxylic acid transmembrane transport ![]() |
Yn cynnwys | carboxyl, carboacyl group ![]() |
![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b5/Carboxylic-acid.svg/640px-Carboxylic-acid.svg.png)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f6/Carboxylate-resonance-hybrid.svg/320px-Carboxylate-resonance-hybrid.svg.png)
R-COOH + H2O ⇌ R-COO- + H3O+
Yr asidau carbocsylig symlaf yw'r asidau alcanoig, R-COOH, lle mae R yn cynrychioli hydrogen neu grŵp alcyl.