![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1c/Haurdunaldia_7._hilabetean_%25281%2529.jpg/640px-Haurdunaldia_7._hilabetean_%25281%2529.jpg&w=640&q=50)
Beichiogrwydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y cyflwr o gario un neu fwy o epil, a elwir yn ffetws neu'n embryo, o fewn croth benyw yw beichiogrwydd (Lladin: graviditas). Gall fod sawl beichiogiad mewn un beichiogrwydd, megis mewn achos efeilliaid neu dripledi. Beichiogrwydd dynol yw'r beichiogrwydd ag astudiwyd fwyaf o'r holl feichiogrwydd mamaliaid. Obstetreg yw'r maes llawfeddygol sy'n astudio a gofalu am feichiogrwydd â risg uchel. Bydwreigiaeth yw'r maes di-lawfeddygol sy'n gofalu am feichiogrwydd a merched beichiog.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | cyflwr ffisiolegol ![]() |
---|---|
Math | pregnancy ![]() |
Arbenigedd meddygol | Bydwreigiaeth ![]() |
Rhan o | motherhood, mam, tad, adulthood ![]() |
Hyd | 38 ±2 wythnos ![]() |
![]() |
Cau
Mae'r erthygl hon yn sôn am feichiogrwydd benywod. Am feichiogrwydd anifeiliaid annynol, gweler Gestation. Am feichiogrwydd dynion, gweler Beichiogrwydd gwryw.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f4/Pregnancy_26_weeks_1.jpg/640px-Pregnancy_26_weeks_1.jpg)
Mae genedigaeth fel arfer yn digwydd 38 wythnos wedi cenhedliad; h.y., tua 40 wythnos wedi dechrau mislif diwethaf y ddynes. Mae amcangyfrif y dyddiad yn dibynnu ar gylched mislifol safonol o 28 diwrnod.