![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a7/An_Overshot_Mill_in_Wales_%2528Aberdulais%2529_-_James_Ward.jpg/640px-An_Overshot_Mill_in_Wales_%2528Aberdulais%2529_-_James_Ward.jpg&w=640&q=50)
Aberdulais
pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Aberdulais. Saif ym mhen isaf Cwm Dulais, lle mae Afon Dulais yn llifo i mewn i Afon Nedd, a ger cyffordd y priffyrdd A465 ac A4109, i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() Darlun olew o felin a dynnwys yn 1847 | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.6809°N 3.7732°W ![]() |
Cod OS | SS773995 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au | Carolyn Harris (Llafur) |
![]() | |
Cau
Fel mae'r Dulais yn agosáu at afon Nedd, mae'n disgyn i raeadr ysblenydd Rhaeadrau Aberdulais, atyniad twristiaeth poblogaidd a safle hen weithfeydd haearn. Mae'r rhaeadr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[2]