pentref yn Rhondda Cynon Taf From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Abercynon.[1][2] Fe'i lleolir yng Nghwm Cynon ar gymer afonydd Cynon a Thaf. Saif tua 13 milltir (21 km) i'r gogledd o Gaerdydd.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 6,390, 6,378 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 915.78 ha |
Cyfesurynnau | 51.6445°N 3.3267°W |
Cod SYG | W04000678 |
Cod post | CF45 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au y DU | Beth Winter (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Beth Winter (Llafur).[4]
Ceir dwy orsaf drenau yno, un ar y rheilffordd o Gaerdydd i Aberdâr, a'r llall ar reilffordd Caerdydd-Merthyr Tudful. Abercynon oedd pen y daith reilffordd stêm gyntaf yn hanes y byd pan yrrodd Richard Trevithick injan stêm, ar 21 Chwefror 1804, a oedd yn tynnu haearn a theithwyr, o waith haearn Penydarren ym Merthyr Tudful i fasn Camlas Morgannwg yn Abercynon. Ceir cofebion i'r daith hanesyddol ym Mhenydarren ac yn Abercynon.
Mae Abercynon yn gartref i Westy'r Thorn, a ddefnyddiwyd gan Tom Jones i ymarfer ar gyfer ei berfformiadau.
Datblygodd y pentref fel canolfan cludiant ar gyffordd ar Gamlas Morgannwg ac ar fan cyffwrdd dwy gangen rheilffordd Cwm Taf. "Navigation" oedd enw'r pentref am gyfnod. Suddwyd pwll glo yno ym 1889 a ymunwyd ag Ynysybwl ac a adnabuwyd hyd ei gau yn yr wythdegau fel Glofa Abercynon Lady Windsor.
Ganwyd y paffiwr Dai Dower yno. Mae Plasty Llancaiach Fawr heb fod ymhell o'r pentref.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Abercynon (pob oed) (6,390) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Abercynon) (552) | 9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Abercynon) (5812) | 91% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Abercynon) (1,047) | 38.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.