Abercuch
pentref yn Sir Benfro / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Maenordeifi, Sir Benfro, Cymru, yw Aber-cuch[1] (hefyd Abercuch neu Abercych).[2] Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir, ar lannau gorllewinol Afon Cuch ar ymyl ddeheuol Dyffryn Teifi, tua hanner ffordd rhwng Castell Newydd Emlyn i'r dwyrain ac Aberteifi i'r gorllewin.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.0386°N 4.555°W |
Cod OS | SN248409 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | Stephen Crabb (Ceidwadwr) |
Cau
Daw Afon Cuch allan o Lyn Cuch i Ddyffryn Teifi ger y pentref, lle ceir rhyd hynafol, ac ar ôl tua hanner milltir mae'n ymuno ag afon Teifi sy'n llifo i Fae Ceredigion ar ôl chwe milltir, ger Aberteifi.
Mae'r pentref yn gorwedd ar hyd lôn sy'n rhedeg rhwng amlwd cyfagos Penrhiw i bentref Llechryd ar lan afon Teifi.