Castellnewydd Emlyn
Tref farchnad yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref farchnad a chymuned yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Castellnewydd Emlyn[1] (neu Castellnewi fel y'i gelwir yn lleol); ceir y ffurf Castell Newydd Emlyn hefyd. Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi. Weithiau ystyrir pentref Adpar, ar y lan ogleddol yng Ngheredigion, yn rhan o'r dref hefyd, er bod gan Adpar hanes hir fel hen fwrdeistref o fewn Ceredigion. Yno y saif Castell Trefhedyn, hen domen o'r Oesoedd Canol.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | tref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.04°N 4.47°W |
Cod SYG | W04000549 |
Cod OS | SN305405 |
Cod post | SA38 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Cau
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[3]