tref yn Ne Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref yng nghymuned Bargod, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Aberbargoed[1] neu Aberbargod.[2] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir ar y briffordd A4049 tua milltir i'r gogledd o Bargod, rhwng Tredegar ac Ystrad Mynach.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Nick Smith (Llafur).[4]
Mae'r enw'n tarddu o enw'r nant "Nant Bargod Rhymni" sy'n llifo i lawr Mynydd y Fochriw i afon Rhymni yma. "Aber Bargoed" oedd ffurf 1578. Mae enw'r nant, fodd bynnag, yn llawer hŷn: fe'i canfyddir yn gyntaf yn 1170 "Bargau Remni". Roedd y nant yn ffin naturiol rhwng tiroedd brithdir a Senghennydd Uwch Caeach. Gyda thwf diwydiant 19eg ganrif, galwyd y tir ar yr ochor ddwyreiniol yn Aberbargoed (Aberbargod, 1729), Pontaber Bargoed yn 1794). Galwyd yr ochor orllewinol yn Bargoed. Bargod, felly, oedd y ffurf cynharaf, a hynny'n golygu "ffin". Newidiwyd yr enw, mae'n debyg, oherwydd dylanwad llefydd cyfagos megis Penycoed ac Argoed.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.