pentref yn Rhondda Cynon Taf From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref ger Aberdâr ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Aber-nant.[1] Yn Saesneg tueddir i ddefnyddio'r sillafiad Abernant,[2] a arferid gynt yn Gymraeg cyn y safoni a fu ar sillafiadau enwau lleoedd Cymru yn 1957.[3] Fe'i lleolir yng nghymuned Dwyrain Aberdâr. Saif Aber-nant i'r de-ddwyrain o Aberdâr, yng Nghymoedd De Cymru. Pentref glofaol ydoedd a gafodd ei sefydlu yn 1801 pan sefydlwyd gwaith haearn yn Aberdâr.[4] Ymhlith y tai cyntaf i'w codi yno roedd Little Row a Moss Place.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.721°N 3.428°W |
Cod OS | SO008032 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au | Beth Winter (Llafur) |
Mae strydoedd Aber-nant yn adlewyrchu pwysigrwydd y diwydiant glo a dur yn yr ardal yn y 19eg ganrif gydag enwau'r strydoedd yn brawf o hynny: Engineer's Row, Foreman's Row a Collier's Row ayb.[4]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur)[5] ac yn Senedd y DU gan Beth Winter (Llafur).[6]
Agorwyd gorsaf reilffordd Aber-nant yn 1854 ar hyd Dyffryn Nedd a hyd at Merthyr Tudful.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.