From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Saesneg ym Mae Colwyn ydy Ysgol Uwchradd Eirias (Saesneg: Eirias High School). Mae'n gwasanaethu plant rhwng 11 ac 18 oed. Cyfeiria enw'r ysgol at yr Eirias ganoloesol a goffeir yn enw Parc Eirias, parc cyhoeddus ger yr ysgol.
Ysgol Uwchradd Eirias | |
---|---|
Eirias High School | |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Saesneg |
Pennaeth | Phil McTague |
Lleoliad | Ffordd Eirias, Bae Colwyn, Conwy, Cymru, LL29 7SP |
AALl | Cyngor Sir Conwy |
Staff | 85 |
Disgyblion | 1521 (2009)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Llysoedd | Llywelyn Hawks (glas) Madog Kites (coch) Glyndwr Eagles (melyn) Gwynedd Falcons (gwyrdd) |
Lliwiau | Browngoch |
Gwefan | http://www.eirias.co.uk |
Roedd 1521 o disgyblion yn yr ysgol yn ystod arolygiad Estyn 2009, gan gynnwys 279 yn y chweched ddosbarth. Disgrifiodd yr adroddiad yr ysgol fel "ysgol dda iawn gyda llawer o nodweddion rhagorol".[1]
Yn nhymor 2008-2009, cyflwynwyd pedwar tŷ ysgol newydd ar gyfer y disgyblion gyda theis o wahanol liwiau, sef coch, gwyrdd. glas a melyn. Enwau'r tai yw: Eryrod Glyn Dŵr/Glyndwr Eagles (melyn), Hebogiaid Llywelyn/Llywelyn Hawks (glas), Cudyllod Madog/Madog Kites (coch) a Gweilch Gwynedd/Gwynedd Falcons (gwyrdd).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.