From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgol gynradd Gymraeg yn Nhywyn, Gwynedd, yw Ysgol Penybryn.
Ysgol Penybryn | |
---|---|
Sefydlwyd | 1860 (Towyn British School) |
Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Menna Wynne Pugh |
Lleoliad | Ffordd Cadfan, Tywyn, Gwynedd, Cymru, LL36 9EF |
AALl | Cyngor Gwynedd |
Disgyblion | 211 (ym Medi 2012, gan gynnwys 12 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin) |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 3–11 |
Gwefan | http://www.pbtywyn.gwynedd.sch.uk/ |
Fel yr awgryma'r enw, saif Ysgol Penybryn ar fryncyn nid nepell o ganol hanesyddol tref Tywyn.
Mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys tref Tywyn ac (er Medi 2013) pentref Aberdyfi. Mae'r ysgol yn bwydo Ysgol Uwchradd Tywyn.
Yn 2010, deuai tuag 11% o'r disgyblion o aelwydydd oedd â'r Gymraeg yn brif iaith.[1]
Agorwyd yr ysgol yn 1860 dan yr enw 'Towyn British School'. Yr adeilad gwreiddiol yw bloc gogleddol yr ysgol bresennol; adeiladwyd y prif floc arall yn 1900. Yn wreiddiol, tŷ'r prifathro oedd y tŷ sy'n dal i sefyll yn union i'r gogledd i'r ysgol.[2]
Yn ystod y 1860au, defnyddid y 'Welsh stick' (ffurf ar y Welsh Not) er mwyn cosbi plant a gafwyd yn siarad Cymraeg. Ond ymddengys na fu'r ymdrech hon i rwystro plant rhag siarad yr iaith yn llwyddiannus iawn.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.