From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (Saesneg: Cardiff School of Art and Design) yw'r prif goleg celf yng Nghaerdydd. Mae'n rhan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ers 2011 ac fe'i lleolir ar gampws Llandaf.[1]
Sefydlwyd yr ysgol yn 1865 dan yr enw Cardiff School of Science & Art, wedyn Cardiff Technical College (1916 - 1949) ac ar ôl 1949, Cardiff College of Art, gyda'r gwersi'n digwydd o fewn Llyfrgell Rhydd Caerdydd[1]
Adeildwyd adeilad chwe llawr newydd ym 1965, yn Howard Gardens, i'r dwyrain o ganol y ddinas, adeilad a gynlluniwyd gan bensaer y ddinas, John Dryburgh.[2]
Ym 1976 daeth y coleg yn rhan o Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg. Newidwyd yr enw i Athrofa Addysg Uwch Caerdydd ym 1988 a daeth y coleg celf yn rhan o Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd ym 1996. Ail-enwyd y brifysgol yn Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn 2011.[1]
Rhoddodd y brifysgol y safle Howard Gardens ar werth yn Nhachwedd 2013, gan fynd ati i ddylunio cynlluniau ar gyfer adeilad newydd sbon ar gampws newydd yn Llandaf. Ar y pryd, roedd gan y coleg celf 1,200 o fyfyrwyr a 70 o staff.[3]
Yn 2014 gorffenwyd adeilad newydd £10 miliwn ar gampws Rhodfa'r Gorllewin, Llandaf, gan benseiri Austin-Smith:Lord. Yn 2015 enillodd yr adeilad wobr rhanbarthol Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain.[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.