Y Gambia

From Wikipedia, the free encyclopedia

Y Gambia

Gwlad fechan ar arfordir Gorllewin Affrica yw Y Gambia (Gweriniaeth y Gambia yn swyddogol). Mae'r Gambia wedi'i hamgylchu yn gyfangwbl gan Senegal a hi yw'r wlad leiaf ar dir mawr Affrica.[1] Llain o dir ar hyd glannau Afon Gambia yw'r wlad; afon a roddodd ei henw i'r wlad. Mae'r Gambia wedi'i hamgylchynu gan Senegal, heblaw am ei harfordir gorllewinol sy'n ffinio ar Gefnfor yr Iwerydd. Arwynebedd y wlad yw 10,689km² ac mae ei phoblogaeth oddeutu 2,639,916 (2021)[2].

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
Y Gambia
Thumb
Gweriniaeth Gambia
Thumb
ArwyddairCynnydd, Heddwch, Ffyniant 
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad 
Enwyd ar ôlAfon Gambia 
PrifddinasBanjul 
Poblogaeth2,639,916 
Sefydlwyd18 Chwefror 1965 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU))
AnthemDros y Gambia, ein Mamwlad 
Pennaeth llywodraethAdama Barrow 
Cylchfa amserUTC+00:00, Africa/Banjul 
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg 
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGorllewin Affrica 
GwladY Gambia 
Arwynebedd11,300 ±1 km² 
GerllawCefnfor yr Iwerydd 
Yn ffinio gydaSenegal 
Cyfesurynnau13.5°N 15.5°W 
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol y Gambia 
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd y Gambia 
Pennaeth y wladwriaethAdama Barrow 
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd y Gambia 
Pennaeth y LlywodraethAdama Barrow 
Thumb
Thumb
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$2,038 million, $2,273 million 
Ariandalasi 
Cyfartaledd plant5.717 
Mynegai Datblygiad Dynol0.5 
Cau

Banjul yw prifddinas Gambia a hi yw ardal fetropolitan fwyaf y wlad.[3] Ffermio, pysgota a thwristiaeth sy'n dominyddu economi'r Gambia. Yn 2015, roedd 48.6% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi. Mewn ardaloedd gwledig, mae tlodi hyd yn oed gryn dipyn yn uwch: 70%.

Mae'r Gambia yn debyg i lawer o genhedloedd eraill yng Ngorllewin Affrica yn y fasnach gaethweision, a oedd y ffactor allweddol wrth sefydlu a chadw cytref ar Afon Gambia, yn gyntaf gan Bortiwgal, pan gelwid yr ardal yn "A Gâmbia". Yn ddiweddarach, ar 25 Mai 1765, gwnaed y Gambia yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig pan gymerodd lywodraeth 'Prydain Far' reolaeth ohoni'n ffurfiol, gan sefydlu 'Gwladfa ac Amddiffynfa Gambia' (Gambia Colony and Protectorate).

Ym 1965, enillodd y Gambia annibyniaeth o dan arweinyddiaeth Dawda Jawara, a fu'n arweinydd ar y wlad nes i Yahya Jammeh gipio grym mewn coup d'état di-drais yn 1994. Daeth Adama Barrow yn drydydd arlywydd Gambia yn Ionawr 2017, ar ôl trechu Jammeh yn etholiadau Rhagfyr 2016.[4] Derbyniodd Jammeh canlyniad yr etholiad, i ddechrau, yna gwrthododd eu derbyn, a sbardunodd argyfwng cyfansoddiadol ac ymyrraeth filwrol gan 'Gymuned Economaidd Gwladwriaethau Gorllewin Affrica', gan arwain at alltudiaeth Jammeh.[5][6]

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.