Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cwmni gweithgynhyrchu ceir Almaenig ydy Volkswagen Aktiengesellschaft neu Volkswagen AG yn fyr (Cymraeg: Grŵp Volkswagen neu Grŵp VW)[1] a adnabyddwyd gynt fel VAG[2]).
Enghraifft o'r canlynol | corfforaeth amlieithog, uwchgwmni, busnes, cynhyrchydd cerbydau, cwmni cyhoeddus |
---|---|
Rhan o | DAX, CDAX, S&P Global 100, Euro Stoxx 50, DivDAX, DivDAX, DivDAX, DivDAX, DAX, DivDAX |
Dechrau/Sefydlu | 28 Mai 1937 |
Lleoliad | Gorllewin yr Almaen |
Perchennog | Porsche Automobil Holding SE, Qatar Investment Authority, Hannoversche Beteiligungsgesellschaft |
Yn cynnwys | Volkswagen-Design |
Prif weithredwr | Oliver Blume |
Sylfaenydd | German Labor Front |
Aelod o'r canlynol | European Movement Germany, Open Automotive Alliance, World Wide Web Consortium, Association of German Transport Companies, Wi-Fi Alliance, Deutsches Institut für Normung, German Road Safety Council, ICC Germany, Verband der Automobilindustrie, Asien-Pazifik-Ausschuss der Deutschen Wirtschaft, Ostausschuss der Deutschen Wirtschaft, Deutsches Aktieninstitut, International Data Spaces, VDMA, Afrika-Verein, American Chamber of Commerce in Germany, Atlantik-Brücke, Bundesvereinigung Logistik, Q1202926, Deutsche Gesellschaft für Personalführung, Deutsche Gesellschaft für Qualität, Deutsche Vereinigung für Wasserwirtschaft, Abwasser und Abfall, Q1205488, Deutsches Rechnungslegungs Standards Committee, Deutsches Institut für Compliance, DIRK e.V., European Telecommunications Standards Institute, European Business Aviation Association, Research Association for Combustion Engines, Cymdeithas Fraunhofer, Gegen Vergessen – Für Demokratie, Q1318481, Gesellschaft für Datenschutz und Datensicherheit, Institute of Business Ethics, Laser Zentrum Hannover, Leibniz Universitätsgesellschaft Hannover e.V., Q1205091, Max Planck Society, German Asia-Pacific Business Association, Presse Club Hannover, Stifterverband für die Deutsche Wissenschaft, Q2513582, German business travel association, Q28819953, 5G Automotive Association e.V, Association of German Engineers, Arbeitsgemeinschaft für wirtschaftliche Verwaltung, DECHEMA, Automobilclub von Deutschland, Canolfan Awyrofod yr Almaen, European Automobile Manufacturers Association, Kulturkreis der deutschen Wirtschaft, ITU Telecommunication Standardization Sector |
Gweithwyr | 672,800 |
Isgwmni/au | Audi, Automobili Lamborghini S.p.A., Bentley, Bugatti, MAN SE, Scania, SEAT, Škoda Auto, Italdesign Giugiaro, Skoda Auto Volkswagen India, Porsche, Volkswagen Group of America, Volkswagen do Brasil, Audi Sport, Volkswagen Group Rus, Volkswagen Finance Luxemburg, Volkswagen (China) Investment Company, Carmeq, Digiteq Automotive, ŠkoFIN, Porsche Bank România, Porsche Česká republika, Porsche Engineering, Data:Lab Munich, Volkswagen Group Components, MOIA, Volkswagen Slovakia, Volkswagen, Volkswagen Argentina, Porsche Holding, Q116170621, Volkswagen-Design |
Rhiant sefydliad | Porsche Automobil Holding SE |
Ffurf gyfreithiol | Aktiengesellschaft |
Cynnyrch | car, lori, van, beic modur |
Incwm | 7,103,000,000 Ewro 7,103,000,000 Ewro (2016) |
Asedau | 409,732,000,000 Ewro 409,732,000,000 Ewro (31 Rhagfyr 2016) |
Pencadlys | Wolfsburg |
Gwladwriaeth | yr Almaen |
Gwefan | https://www.volkswagenag.com/, https://www.volkswagenag.com/de.html, https://www.volkswagenag.com/en.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn 2016, Volkswagen AG gynhyrchodd y nifer fwyaf o geir ledled y byd, gan oddiweddu Toyota.[3] ef hefyd oedd 7fed cwmni mwya'r byd yn 2016.[4]
Mae eu rhiant gwmni Volkswagen Aktiengesellschaft,[5] (VOW3) a gyfeirir atynt weithiau fel VW AG[6] neu VWAG,[7][8] yn datblygu cerbydau a chydrannau ar gyfer pob gwneuthuriad y grŵp, a hefyd yn cynhyrchu ceir cyfan ar gyfer gwneuthuriad Ceir Teithwyr Volkswagen a Cherbydau Masnachol Volkswagen.[5] Mae Volkswagen AG wedi ei rannu'n ddwy brif adran: yr adran Automotive, a'r adran Gwasanaethau Ariannol.[5] Mae 342 o is-gwmniau'n rhan o'r grŵp, sy'n ymwneud â chynhyrchu cerbydau neu wasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â cherbydau.[5]
Er fod y grŵp yn gweithredu'n fyd eang, marchnad graidd Volkswagen yn bennaf yw Ewrop. O'u holl brandiau moduron, ceir teithwyr Volkswagen yw'r gwneuthuriad sydd yn fwyaf adnabyddus, mae is-gwmniau'r grŵp yn cynnwys gwneuthuriad ceir megis SEAT, Škoda, yn ogystal â gwneuthuriadau ceir bri Audi, Lamborghini, Bentley, a Bugatti. Mae'r grŵp hefyd yn gweithredu ym maes cerbydau masnachol, ac yn berchen ar Gerbydau Masnachol Volkswagen yn ogystal â fod yn berchennog ar gyfran rheoli y gwneuthurwyr tryciau a cherbydau disl Swedaidd, Scania AB, a chyfran 29.9% yng nghwmni MAN SE.
Marchnad ail-fwyaf Volkswagen yw Tsieina, lle eu is-gwmni, Volkswagen Group China (VGC), yw'r menter gwneuthurwyr ceir ar y cyd mwyaf o gryn dipyn, gan werthu dros filiwn o gerbydau yn 2008.[5]
Y Volkswagen Golf yw'r car sy'n gwerthu'n drydydd orau yn y byd, gan werthu dros 26 miliwn yn 2008.[5] Yn 2009, gwerthodd Volkswagen 6.29 miliwn o gerbydau, gan ennill 11% o farchnad ceir teithwyr y byd.
Noddodd Volkswagen AG rai chwaraeon megis Gemau Olympaidd 2008, clybiau pêl-droed Vfl Wolfsburg, David Beckham Academy, ac eraill.
Ym mis Awst 2009, cyrhaeddodd Porsche SE a Volkswagen AG gytundeb y buasai Volkswagen AG a Porsche AG yn cyfuno yn 2011.[9][10]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.