Gemau Olympaidd yr Haf 2008
From Wikipedia, the free encyclopedia
Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol pwysig oedd Gemau Olympaidd yr Haf 2008, a adnabyddwyd yn swyddogol fel Gemau'r XXIX Olympiad, cynhaliwyd yn Beijing, Tsieina o 8 Awst (gyda'r pêl-droed yn cychwyn ar y 6 Awst) hyd 24 Awst 2008. Dilynwyd y rhain gyda Gemau Paralympaidd yr Haf 2008 o 6 Medi hyd 17 Medi. Disgwylwyd i 10,500 o chwaraewyr gymryd rhan mewn 302 o gystadleuthau mewn 28 o chwaraeon, un cystadleuaeth yn fwy na gemau 2004.[2] Roedd gemau 2008 Beijing hefyd yn nodi'r trydydd tro i'r cystadleuthau gael eu cynnal mewn tiriogaeth dau Pwyllgor Olympiadd Cenedlaethol gwahanol, gan cynhaliwyd y marchogaeth yn Hong Cong.
![]() Y llythrennau "Jīng" (京), sef yr enw am y ddinas ar logo'r gemau. | |
Dinas | Beijing, Tseina |
---|---|
Arwyddair | One World, One Dream (同一个世界 同一个梦想) |
Gwledydd sy'n cystadlu | 204 |
Athletwyr sy'n cystadlu | 11,028[1] |
Cystadlaethau | 302 mewn 28 o Chwaraeon Olympaidd |
Seremoni Agoriadol | Awst 8 |
Seremoni Gloi | Awst 24 |
Agorwyd yn swyddogol gan | Hu Jintao, Arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Llw'r Cystadleuwyr | Zhang Yining |
Llw'r Beirniaid | Huang Liping |
Cynnau'r Fflam | Li Ning |
Stadiwm Olympaidd | Stadiwm Cenedlaethol Beijing |
Enillodd Nicole Cooke y ras ffordd i ferched gan roi i Gymru y fedal aur gyntaf ers i Richard Meade ennill mewn marchogaeth yng Ngemau Olympaidd 1972. Enillodd dau Gymro arall fedalau aur: Geraint Thomas am seiclo a Tom James am rwyfo.
Chwaraeon
Cynhaliwyd y chwaraeon canlynol yn y gemau hyn, gyda'r nifer o gystadleuthau mewn cronfachau.
- Dyfrol
- Saethyddiaeth (4)
- Athletau (47)
- Badminton (5)
- Pêl fas (1)
- Pêl fasged (2)
- Paffio (11)
- Canŵio (16)
- Seiclo (18)
- Marchogaeth (6)
- Cleddyfaeth (10)
- Hoci cae (2)
- Pêl-droed (2)
- Gymnasteg (18)
- Pêl llaw (2)
- Jiwdo (14)
- Pentathlon modern (2)
- Rhwyfo (14)
- Hwylio (11)
- Saethu (15)
- Pêl feddal (1)
- Tenis bwrdd (4)
- Taekwondo (8)
- Tenis (4)
- Triathlon(2)
- Pêl foli (4)
- Codi pwysau (15)
- Ymgodymu (18)
Medalau
Dyma'r 10 cenedl a enillodd y nifer fwyaf o fedalau yn y Gemau yma:
Safle | Gwlad | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | ![]() | 51 | 21 | 28 | 100 |
2 | ![]() | 38 | 36 | 110 | |
3 | ![]() | 23 | 21 | 28 | 72 |
4 | ![]() | 19 | 13 | 15 | 47 |
5 | ![]() | 16 | 10 | 15 | 41 |
6 | ![]() | 14 | 15 | 17 | 46 |
7 | ![]() | 13 | 10 | 8 | 31 |
8 | ![]() | 9 | 6 | 10 | 25 |
9 | ![]() | 8 | 10 | 10 | 28 |
10 | ![]() | 7 | 16 | 17 | 40 |
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.