Ffurf fodern y system fetrig o fesur ydy'r System Rhyngwladol o Unedau (Ffrangeg: Le Système international d'unités; Saesneg: International System of Units)[1] sydd wedi eu seilio ar saith uned sylfaenol o fesur ac ar hwylustod y rhif deg (10).
Enghraifft o'r canlynol | international standard, safon technegol, coherent system of units, System fetrig |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dyma system fesur mwyaf poblogaidd o'i fath yn y byd, boed mewn diwydiant, addysg, neu wyddoniaeth.[2] Ceir, hefyd, unedau ychwanegol at yr Unedau SI a dderbynir ar y cyd â rhestr yr SI.
Cedwir cyflwyniad swyddogol o'r System ar wefan NIST, gan gynnwys diagram o gydberthynas yr unedau â'i gilydd. Nodir isod rhai o'r unedau sylfaenol a cheir rhestr lawn mewn adroddiad (CODATA) am eraill gan restru rhai sefydlog, megis cyflymder golau.
Y Saith Uned Sylfaenol
Mae'r system unedau yma'n dosbarthu'r holl feusiadau i saith prif ddosbarth ac yn rhestru set o ragddodiaid i'w rhoi o flaen yr enwau. Mae pob un o'r unedau sylfaenol sy'n dilyn yn fathau gwahanol o fesurynnau; allan o'r saith yma y daw pob uned dilynol.
Rhagddodiaid
Gweler hefyd yr erthygl lawn ar ragddodiad SI.
Lluoswm | Enw | deca- | hecto- | kilo- | mega- | giga- | tera- | peta- | exa- | zetta- | yotta- | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Symbol | da | h | k | M | G | T | P | E | Z | Y | ||
Ffactor | 100 | 101 | 102 | 103 | 106 | 109 | 1012 | 1015 | 1018 | 1021 | 1024 | |
Isddosbarthiad | Enw | deci- | centi- | milli- | micro- | nano- | pico- | femto- | atto- | zepto- | yocto- | |
Symbol | d | c | m | μ | n | p | f | a | z | y | ||
Ffactor | 100 | 10−1 | 10−2 | 10−3 | 10−6 | 10−9 | 10−12 | 10−15 | 10−18 | 10−21 | 10−24 |
Rhai Unedau SI ar gyfer Ffiseg
Yr hyn a gaiff ei fesur | Y gair Saesneg | Symbol | Uned Safonol | Fformiwla |
---|---|---|---|---|
Gwahaniaeth potensial | Potential difference | V | folt, V | V = I.R |
Cerrynt | Current | I | amper, A | I = V/R |
Gwrthiant trydanol | electric resistance | R | ohm, Ω | R = V/I |
Anwythiant trydanol | electric inductance | L | henry, H | H = Ώ.s |
Cynhwysiant trydanol | electric capacitance | C | ffarad, F | F = s/Ώ |
Gwefr | Charge | Q | coulomb, C | Q = I.t |
Ymbelydredd a Dadfeilio ymbelydrol | Radioactivity a Radioactive decay | Bq | becquerel | 1/s neu A= -λN |
Pwer | Power | P | wat, W | P = V.I neu P = I2.R |
Egni | Energy | E | joule, J | E = Q.V neu V = E/Q |
Amser | Time | t | Eiliad, s | E = F.l neu P.t |
Grym | Force | F | newton, N | F = m.a |
Màs | Mass | m | cilogram, kg | F = m.a |
Pwysau (grym) | Weight neu force | W | newton, N | W = m.g |
Dwysedd | Density | D | kg/m3, kg/m3 | D = m/V |
Moment | Moment of force neu torque | M | newton-metr, Nm | IM = F.l |
Cyflymder a Buanedd | Speed neu velocity | v | metr/eiliad, m/s | v = p/t |
Cyflymiad | Acceleration | a | metr/eiliad2, m/s2 | a = Δv/t neu a = F/m |
Gwasgedd | Pressure | P | pascal, Pa (N/m2) | P = F/A |
Arwynebedd | Area | A | metr2, m2 | A=s2 (s = hyd yr ochr) |
Cyfaint | Volume | V | metr3, m3 | A=s3 (s = hyd yr ochr) |
Amledd | Frequency | f neu ν (ν = nu Groeg) | hertz, Hz | f = 1/t (t = cyfnod o amser) |
Tonfedd | Wavelength | λ | metr, m | v = ν.λ (fformiwla ton) |
Gwaith a wneir | Work neu heat | Wd | joule, J | Wd = F.d |
Egni potensial | Potential energy | EP | joule, J | EP = m.g.Δh (h = uchder) |
Egni cinetig | Kinetic energy | EC | joule, J | EC= ½ m.v2 |
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.