Mae pascal (symbol: Pa) yn uned SI rhyngwladol a ddefnyddir i fesur gwasgedd (Saesneg:pressure). Hynny yw: N/cm × 102. Ceir gwasgedd o UN pascal gan rym o un newton yn gweithredu ar ongl sgwâr i arwynebedd o un metr sgwâr.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol ...
Pascal
Enghraifft o'r canlynoluned o bwysau, uned sy'n deillio o UCUM, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau
Thumb
Mesurydd gwasgedd wedi ei galibreiddio i ddarllen psi (mewn coch) a kPa (du)

Gan mai uned i fesur gwasgedd ydy pascal, mae'n rhaid felly deall beth ydy gwasgedd. Gellir dweud mai gwasgedd ydy grym (mewn newtonau) wedi ei rannu gyda'r arwynebedd (mewn cm × 102) neu m × 102). Hynny yw: P = F/A.

Fe ddown ar draws y mesur hwn o ddydd i ddydd mewn adroddiadau tywydd, ac mae llawer o farometrau'n mesur gwasgedd mewn hectopascalau (1 hPa ≡ 100 Pa) neu kilopascalau (1 kPa ≡ 1000 Pa).[1] Fe'i defnyddir hefyd ar labeli teiar beics. Mae un hectopascal yn hafal i un milibar.

Cafodd yr uned ei henwi i gofio am waith y mathemategydd Ffrengig Blaise Pascal.

Diffiniad

1 pascal (Pa) = 1 uned newton |N/m2 = 1 kg/(m·s2)[2]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.