Tim Hetherington

cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Birkenhead yn 1970 From Wikipedia, the free encyclopedia

Tim Hetherington

Ffoto-newyddiadurwr a gwneuthurwr ffilm o Loegr[1] oedd Timothy Alistair Telemachus Hetherington[2] (5 Rhagfyr 197020 Ebrill 2011).[3] Astudiodd ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaerdydd.[4] Enillodd wobr Ffotograff y Flwyddyn gan y World Press ym 1997.[5] Cyd-gyfarwyddodd y ffilm ddogfen Restrepo (2010) am filwyr Americanaidd yn Rhyfel Affganistan gyda Sebastian Junger, a gafodd ei henwebu am Oscar.[6] Cafodd Hetherington a'r ffotograffydd Chris Hondros eu lladd wrth eu gwaith ym Misrata yn ystod Rhyfel Cartref Libya.[7]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Tim Hetherington
Thumb
Ganwyd5 Rhagfyr 1970 
Penbedw 
Bu farw20 Ebrill 2011 
Misrata 
Man preswylDinas Efrog Newydd 
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig 
Alma mater
Galwedigaethgohebydd rhyfel, ffotograffydd, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, ffotonewyddiadurwr, newyddiadurwr, ffotografydd rhyfel 
Blodeuodd2011 
Adnabyddus amRestrepo 
PartnerIdil Ibrahim 
Gwobr/auWorld Press Photo of the Year 
Gwefanhttp://www.timhetherington.com 
Cau

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.