Thomas Iorwerth Ellis

addysgydd ac awdur From Wikipedia, the free encyclopedia

Thomas Iorwerth Ellis

Awdur Cymraeg, darlithydd a phrifathro o Gymru oedd Thomas Iorwerth Ellis a gyhoeddai wrth yr enw T. I. Ellis (19 Rhagfyr 189920 Ebrill 1970).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Thomas Iorwerth Ellis
Thumb
Ganwyd19 Rhagfyr 1899 
Gwynedd 
Bu farw20 Ebrill 1970 
Dinasyddiaeth Cymru
Alma mater
Galwedigaethcofiannydd, ysgolhaig clasurol 
Swyddllywydd corfforaeth 
Cyflogwr
TadThomas Edward Ellis 
MamAnnie Jane Hughes Griffiths 
PriodMari Ellis 
PlantMeg Elis 
Gwobr/auOBE 
Cau

Ganwyd yn Llundain yn fab i'r gwleidydd adnabyddus Thomas Edward Ellis, AS Meirionnydd.

Cafodd yrfa hir ym myd addysg fel darlithydd yn y Clasuron ac fel prifathro ysgol sir y Fflint yn Y Rhyl. Bu'n ysgrifennydd Undeb Cymru Fydd (1941-1967). Gwasanaethodd hefyd am gyfnodau hir ar bywllgorau sefydliadau fel Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyfranodd nifer o erthyglau ar bynciau llenyddol, diwylliannol a gwleidyddol i gylchgronau Cymreig a chwe chyfrol i'r gyfres boblogaidd Crwydro Cymru (Llyfrau'r Dryw). Cyhoeddodd hefyd gofiant i'w dad mewn dwy gyfrol a chasgliad o ysgrifau.

Bywyd personol

Priododd Mary Gwendoline Headley (Mari Ellis) yn Ebrill 1949 a cawsant ddau o blant - Margaret Ann (sef Meg Elis, ganwyd 1950) a Rolant (ganwyd 1953). Bu farw yn ei gartref yn Aberystwyth.

Ganwyd ei wraig Mari ar 21 Gorffennaf 1913 yn Dylife a roedd yn llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Ysgrifennodd mewn sawl cylchgrawn a cyhoeddodd tri nofel. Cefnogodd waith ei gŵr gyda Undeb Cymru Fydd ac yn dilyn ei farwolaeth, golygodd nifer o'i lyfrau ar gyfer eu cyhoeddi. Bu farw hithau yn yn Aberystwyth ar 25 Ionawr 2015.[1]

Llyfryddiaeth

Cyfres Crwydro Cymru
  • Crwydro Ceredigion
  • Crwydro Maldwyn
  • Crwydro Meirionnydd
  • Crwydro Mynwy
  • Crwydro Sir y Fflint
Eraill
  • The Development of Higher Education in Wales (1935)
  • Cofiant T. E. Ellis (1944, 1948)
  • Ym Mêr fy Esgyrn (1955). Ysgrifau.
  • Dilyn Llwybrau (1967). Ysgrifau
  • Life of Ellis Jones Griffith (1969)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.