Remove ads
swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid a Chaliff (1520–1566) From Wikipedia, the free encyclopedia
Swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid o 1520 hyd ei farwolaeth oedd Kanuni Sultan Swleiman I, hefyd Swleiman y Godidog (6 Tachwedd 1494 – 6 Medi 1566).
Swleiman I | |
---|---|
Ganwyd | 6 Tachwedd 1494 Trabzon |
Bu farw | 6 Medi 1566 Szigetvár |
Man preswyl | Topkapı Palace |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd |
Galwedigaeth | bardd, llywodraethwr, deddfwr, arweinydd milwrol, gwleidydd |
Swydd | swltan yr Ymerodraeth Otoman |
Tad | Selim I |
Mam | Ayşe Hafsa Sultan(bruja) |
Priod | Hürrem Sultan, Mahidevran, Fülane Hatun, Gülfem Hatun |
Partner | Fülane Hatun, Gülfem Hatun |
Plant | Şehzade Mustafa, Şehzade Mehmed, Mihrimah Sultan, Selim II, Şehzade Bayezid, Şehzade Murad, Raziye Sultan, Șehzade Cihangirs, Şehzade Abdullah, Fatma Nur, Şehzade Mahmud, Noor sultan |
Llinach | Ottoman dynasty |
llofnod | |
Ganed ef yn Trabzon, yn fab i'r Swltan Selim I. Wedi iddo ddilyn ei dad ar yr orsedd, ymgymerodd a chyfres o ymgyrchoedd milwrol, gan ymestyn ei ffiniau i gynnwys y Balcanau a rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn 1522, cipiodd ynys Rhodos oddi ar Farchogion yr Ysbyty. Yn 1526, gorchfygodd frenin Hwngari a'i ladd ym Mrwydr Mohács, gyda'r canlyniad fod Hwngari'n ymrannu'n dair rhan. Bu'n gwarchae ar ddinas Fienna yn 1529 a 1532, ond heb lwyddiant, ac yn 1533 gwnaeth gytundeb heddwch a'r Archddug Ferdinand.
Yn y dwyrain, bu'n ymladd yn erbyn rheolwyr Saffafid Persia. Cipiodd ddinas Baghdad oddi wrthynt yn 1534. Cipiodd lawer o diriogaeth yng Ngogledd Affrica hefyd, gan eu defnyddio ar gyfer ymosodiadau ar fyddinoedd yr ymerawdwr Siarl V. Un o gadfridogion Swleiman yn yr ymgyrchoedd hyn oedd Khair-ed-din Barbarossa.
Dan ei deyrnasiad ef, blodeuodd dysg a phensaernïaeth yn yr ymerodraeth, ac ef oedd yn gyfrifol am ail-adeiladu Istanbul, Mecca a Baghdad. Bu farw yn Szigetvár, a dilynwyd ef gan ei fab Selim II.
Rhagflaenydd: Selim I |
Swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid 22 Medi 1520 – 5 Medi 1566 |
Olynydd: Selim II |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.