stadiwm From Wikipedia, the free encyclopedia
Stadiwm pêl-droed yn Lusail, Qatar, yw Stadiwm Eiconig Lusail (Arabeg: ملعب لوسيل الدولي). Bydd y stadiwm yn cynnal gêm olaf Cwpan y Byd FIFA 2022.[1]
Stadiwm Lusail, sy'n eiddo i Gymdeithas Bêl-droed Qatar,[2] yw'r stadiwm mwyaf yn Qatar ac un o wyth stadiwm sy'n cael eu defnyddio ar gyfer Cwpan y Byd 2022 FIFA Qatar.[3]
Mae'r stadiwm wedi ei leoli tua 23 km i'r gogledd o Doha.[2] Cafodd Stadiwm Lusail ei urddo ar 9 Medi 2022 gyda gêm Cwpan Lusail Super.[4]
Dechreuodd y broses ar gyfer trawsnewid y stadiwm yn 2014.[5] Adeiladwyd y stadiwm fel menter ar y cyd gan HBK Contracting (HBK) a China Railway Construction Corporation (CRCC).[6][7]
Cynlluniwyd y stadiwm gan Foster + Partners a Populous,[8] ac fel y stadia eraill sydd wedi'u cynllunio ar gyfer Cwpan y Byd 2022, bydd Stadiwm Lusail yn cael ei oeri gan ddefnyddio pŵer solar a bydd ganddo ôl troed di-garbon.[9]
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 11 Ebrill 2017[10] ac roedd wedyn i gynnal tair gêm gyfeillgar tan Gwpan y Byd 2022.[11] ond gohiriwyd y gwaith o gwblhau’r stadiwm.[12]
Mewn adroddiad ym mis Medi 2021, beirniadodd Amnest Qatar am fethu ag ymchwilio i farwolaethau gweithwyr mudol.[13]
Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd Amnest ganlyniadau arolwg barn o dros 17,000 o gefnogwyr pêl-droed o 15 gwlad a ddangosodd fod 73% yn cefnogi bod FIFA yn digolledu gweithwyr mudol yn Qatar am droseddau hawliau dynol.[14] Cyhoeddodd FIFA ddatganiad ar ôl arolwg barn Amnest a oedd yn cyfeirio at y gwelliant a wnaed i weithwyr mudol.[15]
Bydd Stadiwm Eiconig Lusail yn cynnal 10 gêm yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022, gan gynnwys y rownd derfynol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.