Sophene

From Wikipedia, the free encyclopedia

Sophene

Roedd Sophene (Hitteg: Ծոփք - Tsopk) yn dalaith o Deyrnas Armenia a'r Ymerodraeth Rufeinig, a leolwyd yn ne-orllewin yr Armenia hanesyddol. Mae ei thiriogaeth yn gorwedd yn ne-ddwyrain Twrci heddiw.

Thumb
Talaith Sophene yn yr Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Sophene
Mathtalaith, ashkharh, ardal hanesyddol 
Daearyddiaeth
GwladKingdom of Armenia, Rhufain hynafol 
Cyfesurynnau38.676878°N 39.171912°E 
Cyfnod daearegoly cynfyd clasurol 
Thumb
Cau
Am y deyrnas o'r un enw, gweler Teyrnas Sophene.

Yn ôl Anania Shirakatsi yn ei lyfr Ashkharatsuyts ("Atlas y Byd," 7g), Tsopk oedd yr ail o 15 talaith Armenia Fawr (Armenia Major neu Armenia Superior). Roedd yn cynnwys 8 canton (gavar): Khordzyan, Hashtyank, Paghnatun, Balahovit, Tsopk (Shahunyats), Andzit, Degiq, a Gavreq (Goreq).

Ar wahanol adegau yn ei hanes bu'n rhan o deyrnas Urartu (8-7fed canrifoedd CC) a Teyrnas Armenia dan yr Orontiaid, ac yn annibynnol fel Teyrnas Sophene, yn rhan o ymerodraeth y Seleuciaid (tua 200 CC dan Antiochus III a'i lywodraethwr Zariadres. Rhwng 190 CC a'r 80au CC bu'n annibynnol eto cyn dod yn rhan o Armenia Fawr yn nheyrnasiad Tigranes Fawr.

Rhoddodd Pompey Sophene i Tigranes ar ôl gorchfygu ei dad, Tigranes Fawr. Ar ôl hynny daeth yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig. Y brifddinas oedd Amida (Diyarbakir heddiw, Twrci). Tua 54 OC, rheolwyd y dalaith gan Gaius Julius Sohaemus. Yn 530, cynhwyswyd Sophene yn nhalaith Fysantaidd Armenia.

Gweler hefyd

  • Teyrnas Sophene
Rhagor o wybodaeth Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC ...
Cau

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.