From Wikipedia, the free encyclopedia
Chwaraewr rygbi'r Undeb o Gymro yw Ryan Paul Jones MBE (ganed 13 Mawrth 1981). Bu'n rhan o tri camp lawn gyda thîm cenedlaethol dynion Cymru, yn 2005, fel capten yn 2008, ac yn 2012. Mae'n chwarae fel wythwr.
Ryan Jones | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mawrth 1981 Casnewydd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 196 centimetr |
Pwysau | 114 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Gweilch, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Wythwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed ef yng Nghasnewydd yn fab i blismon. Bu'n chwarae pêl-droed i dîm ieuenctid Bristol City fel golgeidwad hyd nes oedd yn 14 oed. Dechreuodd chwarae rygbi yn 17 oed, er mwyn cael bod gyda'i gyfellion.
Bu'n chwarae i'r Rhyfelwyr Celtaidd, yna pan gafodd y tîm yma ei ddirwyn i ben, aeth i chwarae i'r Gweilch. Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru ym mis Tachwedd 2004, yn erbyn De Affrica. Roedd yn rhan o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2005.
Ni ddewiswyd ef yn y lle cyntaf ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn niwedd 2005, ond yn dilyn anafiadau, galwyd ef i ymuno â'r tîm. Daeth ar y cae am gyfnod yn ystod y gêm brawf gyntaf a chwaraeodd o'r dechrau yn y ddwy gêm brawf arall; ystyriai llawer ei fod yn un o chwaraewyr gorau y Llewod yn y gemau hynny. Fodd bynnag, anafodd ei ysgwydd yn ddifrifol, ac ni allodd chwarae llawer o rygbi yn ystod 2006, gyda'r problemau'n parhau yn 2007.
Erbyn dechrau 2008 roedd yn ôl i'w orau, a phan ddaeth Warren Gatland yn hyfforddwr Cymru, apwyntiodd Ryan Jones yn gapten. Dan ei arweiniad ef, enillwyd y Gamp Lawn eto. Cafodd gytundeb 2 flynedd gan dîm Rygbi Bryste ym mis Mawrth, 2014 ond yn anffodus bu rhaid iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o'r gêm ym mis Awst, 2015 oherwydd yr anaf diweddaraf i'w ysgwydd.[1]
Yng Ngorffennaf 2022, yn 41 mlwydd oed, datgelodd ei fod wedi cael diagnosis o ddementia cynnar, yn dilyn diagnosis o Enseffalopathi Trawmatig Cronig yn Rhagfyr 2021.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.