Ruth Madoc
actores a aned yn 1943 From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores a chantores oedd Ruth Madoc (née Llewellyn) (16 Ebrill 1943 – 9 Rhagfyr 2022).[1] Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Gladys Pugh yng nghyfres gomedi teledu y BBC, Hi-de-Hi! yn ystod y 1980au er iddi ymddangos yn fwy diweddar fel mam Daffyd Thomas yn yr ail gyfres o Little Britain.
Ruth Madoc | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Margaret Ruth Llewellyn Baker 16 Ebrill 1943 Norwich |
Bu farw | 9 Rhagfyr 2022 Torquay |
Man preswyl | Glyn-nedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor, actor llwyfan |
Priod | Philip Madoc |
Gwefan | http://www.ruthmadocofficial.co.uk/index.html |
Bywyd cynnar
Ganwyd Ruth Llewellyn yn Norwich lle roedd eu rhieni yn gweithio yn y byd meddygol - ei mam yn nyrs a'i thad yn weinyddwr. Roedd ei rhieni yn rhy brysur gyda'u gwaith ar y pryd ac felly magwyd Ruth gan ei mamgu, Etta Williams, yn Llansamlet ger Abertawe.[2] Cychwynnodd weithio yn y theatr yn 16 oed a chafodd ysgoloriaeth i astudio yn RADA[3].
Gyrfa
Wedi gadael RADA gweithiodd yn The Black and White Minstrel Show. Chwaraeodd Madoc ran Fruma Sarah yn y fersiwn ffilm o'r sioe gerdd Fiddler on the Roof, ac ymddangosodd fel Mrs Dai Bread Two yn y ffilm Under Milk Wood. Bu'n westai rheolaidd hefyd ar rhaglen adloniant BBC Cymru Poems and Pints. Roedd hefyd yn lleisio un o'r creaduriaid o blaned arall yn hysbysebion Cadbury's ar gyfer cynnyrch 'Smash' yn ystod y 1970au.
Mae hi hefyd yn actores lwyfan brofiadol sydd wedi bod yn rhan o nifer o gynhyrchiadau gan gynnwys Under Milk Wood, Steel Magnolias, dramâu Agatha Christie (And Then There Were None...), a'r sioe gerdd Annie yn ogystal ag amryw berfformiadau mewn pantomeimiau.
Ymddangosodd hefyd ar sioe deledu realiti LivingTV I'm Famous and Frightened! ac enillodd y gystadleuaeth. Derbyniodd radd anrhydeddus hefyd o Brifysgol Abertawe ym mis Gorffennaf 2006.
Bywyd personol
Priododd yr actor Philip Madoc yn 1961. Cawsant fab, Rhys, a merch, Lowri, ond ysgarodd y ddau ohonynt yn 1981. Bu farw Ruth Madoc mewn ysbyty yn Torquay, yn 79 oed, ar ôl cwympo tra roedd hi'n paratoi i ymddangos mewn pantomeim.[4]
Ffilmiau
- Fiddler on the Roof (1971)
- Under Milk Wood (ffilm 1972) (1972)
- Crossed Swords (1977)
- Very Annie Mary (2001)
Teledu
- New Scotland Yard (1972)
- Leave it to Charlie (1979)
- Hi-De-Hi (1980 - 1988)
- The Life and Times of David Lloyd George (1981)
- The Pale Horse (1997)
- Mine All Mine (2004)
- Little Britain (2004)
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.