ysgrifennwr, bardd (1591-1674) From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd ac chlerigwr] Anglicanaidd o Loegr oedd Robert Herrick (Awst 1591 – Hydref 1674). Fe'i ystyrir yn un o'r beirdd Cafaliraidd, er nad oedd yn llyswr nac yn filwr yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr.
Robert Herrick | |
---|---|
Ganwyd | 24 Awst 1591 Llundain |
Bu farw | 12 Hydref 1674 Dyfnaint |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Adnabyddus am | Hesperides (barddoniaeth) |
Ganwyd Robert Herrick yn Llundain. Ni wyddys ei ddyddiad geni, ond cafodd ei fedyddio ar 24 Awst 1591. Aeth yn brentis i'w ewythr, y gof aur Syr William Herrick. Aeth i Gaergrawnt yn 1613 i astudio yng Ngholeg Sant Ioan, a derbyniodd ei radd baglor yn 1617 a'i radd meistr yn 1620. Cafodd ei ordeinio yn 1623.[1]
Dychwelodd i Lundain i fyw am gyfnod yng nghwmni beirdd, dramodwyr, cerddorion, a gwŷr ffraeth y llys brenhinol. Roedd yn gyfarwydd â Ben Jonson, yr hwn a fu'n ddylanwad enfawr arno. Yn 1627 ymunodd Herrick, yn gaplan i George Villiers, Dug Buckingham, â'r ymgyrch fethedig i'r Île de Ré i ryddhau La Rochelle a chynorthwyo'r Hiwgenotiaid yn y gwrthryfel yn erbyn Louis XIII, brenin Ffrainc.[1]
Aeth i weinidogaethu'r plwyf yn Dean Prior, Dyfnaint, yn 1629, a bu yno am weddill ei oes. Yn y cyfnod 1646–60, o ddiwedd Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr hyd yr Adferiad, cafodd ei ddiswyddo o'i weinidogaeth oherwydd ei gefnogaeth dros y Brenhinwyr. Bu farw yn Dean Prior yn 82 oed.[1]
Yn y 1620au daeth Herrick yn fardd amlwg yn Llundain, a chofnodir ei gerddi mewn nifer o goflyfrau'r cyfnod. Er gwaethaf, yr unig lyfr a gyhoeddwyd ganddo oedd Hesperides (1648), gwaith sy'n cynnwys y casgliad o gerddi ar bynciau crefyddol a elwir "His Noble Numbers". Mae tua 1,400 o gerddi ac epigramau yn y gyfrol honno i gyd, y mwyafrif ohonynt yn fyr iawn. Wedi'r cyhoeddiad hwnnw, ymddengys ei farddoniaeth mewn casgliadau amrywiol a llyfrau caneuon yn ail hanner yr 17g. Henry Lawes oedd un o'r cyfansoddwyr a gyfansoddodd cerddoriaeth i benillion Herrick.[1]
Am ryw ganrif wedi ei farwolaeth, cafodd barddoniaeth Herrick ei esgeuluso ym myd llenyddol Lloegr. Adfywiodd ddiddordeb yn ei waith pryd ymddangosodd rhai o'i gerddi yn The Gentleman's Magazine, dan olygyddiaeth John Nichols, yn niwedd y 18g. Cafodd Hesperides ei gwerthfawrogi am grefft ei telynegiaeth a syberwyd ei bugeilgerddi, ac ymddengys nifer o'i gerddi natur, yn enwedig "To the Virgins, to make much of Time", "Corinna's going a Maying", "Delight in Disorder", "To Live Merrily and to Trust to Good Verses", "How Roses came Red", ac "How Violets came Blue", mewn blodeugerddi'r 19g.[2] Yn y cyfnod 1810–1900, cyhoeddwyd mwy na 20 o argraffiadau unigryw o waith Herrick ym Mhrydain, gan gynnwys golygiadau i blant a chyhoeddiadau anrheg ar gyfer y Nadolig.[3] Un o'i edmygwyr blaenaf yn Oes Fictoria oedd Algernon Charles Swinburne, yr hwn a alwodd Herrick yn "y cyfansoddwr cerddi goreuaf – mor sicr â Shakespeare ydy'r dramodydd goreuaf – a anwyd erioed o hil y Saeson".[4] Yn y cyfnod hwn hefyd bu golwg arall, un wleidyddol, ar Herrick: hawliodd y Siartwyr taw un o weithiau "bardd y Bobl" oedd "To Daffodils".[2]
Yn nechrau'r 20g, pallodd ei statws ymhlith y beirniaid, er enghraifft F. R. Leavis, a oedd yn ffafrio barddoniaeth "gref" megis penillion Jonson a Donne. Ezra Pound oedd un o'r ychydig o fodernwyr i'w werthfawrogi. Ar y llaw arall, cafodd Herrick ei alw'n "is-fardd" (minor poet) gan T. S. Eliot.[5] Yn niwedd y 1960au a'r 1970au, dechreuodd ysgolheigion a beirniaid unwaith eto ddarllen Hesperides, nid am fod rhialtwch gwledig ei olygfeydd yn ffasiynol, ond oherwydd eu bod am ddadansoddi'r casgliad cyfan fel un gwaith llenyddol.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.