cyfansoddwr a aned yn 1595 From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfansoddwr o Sais oedd Henry Lawes (bedyddiwyd 5 Ionawr 1596 – 21 Hydref 1662) sydd yn nodedig am ei ganeuon continwo.
Henry Lawes | |
---|---|
Ganwyd | 5 Rhagfyr 1595, 5 Ionawr 1596 Wiltshire |
Bu farw | 21 Hydref 1662 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Mudiad | cerddoriaeth faróc |
Ganed yn Dinton, Wiltshire. Ymunodd â'r Capel Brenhinol ym 1626 a fe'i penodwyd yn liwtydd a chanwr brenhinol ym 1631. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer y masc Comus gan John Milton ym 1634, ac mae'n bosib iddo gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y masc Coelum Britannicum gan Thomas Carew hefyd yn yr un flwyddyn. Ym 1636 cydweithiodd â'i frawd, William Lawes, i gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y masc The Triumph of the Prince d'Amour gan Syr William Davenant.[1]
Mae'r casgliad Choice Psalmes (1648) yn cynnwys enghreifftiau o'i waith yn ogystal â chyfraniadau gan ei frawd, a soned gyflwynol gan Milton. Collodd Lawes ei swyddi yn y llys brenhinol yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr, ond cafodd ei ailbenodi yn sgil yr Adferiad. Ym 1656 cyfansoddodd Lawes gerddoriaeth ar gyfer The Siege of Rhodes gan Davenant. Bu farw yn Llundain yn 66 oed.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.