Rhanbarth Ymreolaethol Tibet

ardal hunanlywodraethol Tsieina From Wikipedia, the free encyclopedia

Rhanbarth Ymreolaethol Tibet

Un o ranbarthau ymreolaethol Gweriniaeth Pobl Tsieina sy'n cynnwys rhan sylweddol o'r Tibet hanesyddol yw Rhanbarth Ymreolaethol Tibet neu Xizang. Lhasa, prifddinas hanesyddol Tibet, yw prifddinas y rhanbarth. Mae canolfannau mawr eraill yn cynnwys Shigatse, Gyantse a Nagchu.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Ardal hunanlywodraethol Tibet
MathArdal hunanlywodraethol Gweriniaeth pobl Tsieina 
PrifddinasLhasa 
Poblogaeth3,180,000, 3,648,100 
Sefydlwyd
  • 1965 
Pennaeth llywodraethChe Dalha, Yan Jinhai 
Cylchfa amserUTC+08:00 
Daearyddiaeth
SirGweriniaeth Pobl Tsieina 
GwladGweriniaeth Pobl Tsieina 
Arwynebedd1,228,400 km² 
Yn ffinio gydaSichuan, Yunnan, Xinjiang, Qinghai, Nepal, Himachal Pradesh, Uttarakhand, Sikkim, Bhwtan, Arunachal Pradesh, Talaith Kachin 
Cyfesurynnau31.70556°N 86.94028°E 
CN-XZ 
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolPeople's Government of Tibet Autonomous Region 
Corff deddfwriaetholTibet Autonomous Regional People's Congress 
Pennaeth y LlywodraethChe Dalha, Yan Jinhai 
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)190,270 million ¥ 
Cau
Lleoliad Rhanbarth Ymreolaethol Tibet ar fap cyfoes sy'n dangos tiriogaeth hanesyddol Tibet hefyd

Cafodd y rhanbarth ei ffurfio ar ôl i Weriniaeth Pobl Tsieina oresgyn Tibet yn ystod y 1950au. Mae'n cynnwys talaith hanesyddol Ü-Tsang a rhan o orllewin Kham, dwy o'r tair talaith hanesyddol - gydag Amdo - a ffurfiai deyrnas Tibet.

Mae llywodraeth alltud Tibet - Gweinyddiaeth Ganolog Tibet - yn gwrthod cydnabod y rhanbarth, gan ddadlau iddo gael ei orfodi ar Dibet gan rannu'r wlad mewn canlyniad a rhoi ei rhannau dwyreiniol i Tsieina. Ffôdd nifer fawr o Dibetiaid o'r ardal i geisio lloches yn India, e.e. yn Dharamsala a Darjeeling, ac mae nifer sylweddol o bobl Han o Tsieina wedi symud i mewn i fyw yno ers hynny, gyda chefnogaeth ariannol llywodraeth Tsieina.

Rhagor o wybodaeth Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina, Taleithiau ...
Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina
Taleithiau AnhuiFujianGansuGuangdongGuizhouHainanHebeiHeilongjiangHenanHubeiHunanJiangsuJiangxiJilinLiaoningQinghaiShaanxiShandongShanxiSichuanYunnanZhejiang
Taleithiau dinesig BeijingChongqingShanghaiTianjin
Rhanbarthau ymreolaethol GuangxiMongolia FewnolNingxiaTibetXinjiang
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig Hong CongMacau
Cau
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.