Guangdong

talaith Tsieina From Wikipedia, the free encyclopedia

Guangdong

Un o daleithiau Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Guangdong, hefyd Canton (Tsieinëeg syml: 广东; Tsieinëeg draddodiadol: 廣東; pinyin: Guǎngdōng). Saif yn ne-ddwyrain y wlad, ger yr arfordir. Y brifddinas yn Guangzhou, a adwaenir hefyd fel dinas Canton. Mae'n ffinio ar Hong Cong, Macau, Guangxi, Hunan, Jiangxi a Fujian, gydag ynys Hainan gerllaw, yr ochr draw i Gulfor Hainan.

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Guangdong
Mathtalaith Tsieina 
PrifddinasGuangzhou 
Poblogaeth106,440,000, 107,240,000, 108,490,000, 109,990,000, 111,690,000, 113,460,000, 126,012,510 
Pennaeth llywodraethWang Weizhong 
Cylchfa amserUTC+08:00 
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe-ddwyrain Tsieina 
SirGweriniaeth Pobl Tsieina 
Gwlad Tsieina
Arwynebedd179,800 km² 
Yn ffinio gydaGuangxi, Hunan, Jiangxi, Fujian, Hong Cong, Macau 
Cyfesurynnau23.4°N 113.5°E 
CN-GD 
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholQ106029485 
Pennaeth y LlywodraethWang Weizhong 
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)11,076,090 million ¥, 12,436,970 million ¥ 
Cau

Guangdong yw talaith fwyaf poblog GPT, gyda phoblogaeth barhaol o 79 miliwn yn ogystal â 31 miliwn o fewnfudwyr dros dro yn byw yno yn 2005. Mae'r brifddinas, Guangzhou, a dinas Shenzhen ymysg dinasoedd mwyaf poblog a phwysicaf y wlad. Tsineaid Han yw mwyafrif y boblogaeth, gyda lleiafrif o'r Miao. Mae llawer o bobl wedi ymfudo o Guangdong i rannau eraill o'r byd, er enghraiift o Guangdong y daw mwyafrif Tsineaid Cymru yn wreiddiol.

Mae Guangdong yn un o daleithiau cyfoethogaf Tsieina, ac mae'n gyfrifol am tua 12% o gynnyrch economaidd y wlad. Yn 2008 roedd economi'r dalaith tua'r un faint ac economi Sweden.

Rhagor o wybodaeth Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina, Taleithiau ...
Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina
Taleithiau AnhuiFujianGansuGuangdongGuizhouHainanHebeiHeilongjiangHenanHubeiHunanJiangsuJiangxiJilinLiaoningQinghaiShaanxiShandongShanxiSichuanYunnanZhejiang
Taleithiau dinesig BeijingChongqingShanghaiTianjin
Rhanbarthau ymreolaethol GuangxiMongolia FewnolNingxiaTibetXinjiang
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig Hong CongMacau
Cau
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.